Deallusrwydd Artiffisia: Heriau, Chyfleoedd sy'n dod i'r amlwg ac Agenda ar gyfer Ymchwil ac Ymarfer

Rydym yn ymchwilio i effaith AI Cynhyrchiol mewn Addysg Uwch

Rydym yn ymchwilio i effaith AI Cynhyrchiol mewn Addysg Uwch

Y Her

Mae deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol yn gangen o ddeallusrwydd artiffisial sy'n defnyddio algorithmau dysgu dwfn a hyfforddwyd ar gronfeydd data mawr i greu cynnwys megis testun, lluniau, fideos a cherddoriaeth. Mae Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol, fel ChatGPT gan Open AI, wedi tarfu ar sawl agwedd ar ddiwydiant mewn cyfnod byr iawn, gan achosi i lawer o wneuthurwyr penderfyniadau a llunwyr polisi gwestiynu prosesau presennol a rolau swydd traddodiadol.

Gellir defnyddio deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol at nifer o ddibenion mewn amryw o sectorau, yn cynnwys marchnata, y proffesiwn cyfreithiol, diwydiannau creadigol, datblygu meddalwedd, gweithgynhyrchu, gofal iechyd a gemio. Gall AI cynhyrchiol greu gweithiau newydd sy'n herio syniadau traddodiadol o greadigrwydd ac awduraeth. Mewn cerddoriaeth, gall greu alawon newydd a hyd yn oed caneuon cyfan. Yn y diwydiant meddalwedd, gall deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol greu blociau o gôd mewn llawer o ieithoedd gwahanol, gall deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol ragweld effeithiolrwydd cyffuriau newydd, gan leihau'r amser a'r gost sy'n gysylltiedig â datblygu cyffuriau. Ond pa effaith fydd deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol yn ei chael ar addysg uwch?

Y dull

Yr Dull

Mae'r Athro Yogesh Dwivedi, Dr Tegwen Malik a Dr Sandra Dettmer o Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe a Dr Laurie Hughes o Brifysgol Edith Cowan yng Ngorllewin Awstralia yn gweithio i nodi effaith AI cynhyrchiol mewn Addysg Uwch ac ar draws ystod o ddiwydiannau.

Mae allbynnau ymchwil diweddar wedi canolbwyntio ar ddeallusrwydd artiffisial mewn addysg uwch, gan asesu'r effaith o bersbectif y staff a'r myfyrwyr a sut gall deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol drawsnewid asesiadau, amgylcheddau dysgu, uniondeb academaidd a dulliau addysgegol traddodiadol.

Nod yr Athro Dwivedi, Dr Hughes, Dr Malik a Dr Dettmer yw deall barn staff a myfyrwyr am ddeallusrwydd artiffisial cynhyrchiol yn well, adnabod ei ddefnydd a’i arfer cyfredol, a chreu agenda ymchwil ac argymhellion polisi, yn ogystal â thrafod yr effaith o bersbectif cymdeithasol lefel uwch.

Mae'r gwaith hwn yn dilyn ymlaen o ymchwil blaenorol yr Athro Yogesh Dwivedi a'i dîm i heriau a chyfleoedd newydd Deallusrwydd Artiffisial (AI).

Yr Effaith

Trwy gydol ei ymchwil mae'r Athro Dwivedi wedi adnabod sut y gall deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol, yn cynnwys ChatGPT, gael effaith sylweddol ar addysg uwch mewn nifer o ffyrdd: 

  • Dysgu iaith: Gallai ChatGPT gael ei ddefnyddio i helpu myfyrwyr i ddysgu iaith newydd trwy fod yn bartner sgwrsio sy’n gallu deall ac ymateb i'w cwestiynau mewn modd naturiol a ymatebol.
  • Dysgu personol: Gallai deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol gael ei ddefnyddio i greu profiadau dysgu personol i fyfyrwyr trwy greu cynnwys sydd wedi'i deilwra i'w hanghenion a’u harddulliau dysgu unigol.
  • Creu cynnwys: Gallai ChatGPT gael ei ddefnyddio i greu cynnwys addysgol fel darlithoedd, cwisiau, ac asesiadau, a allai helpu i leihau llwyth gwaith athrawon a darparu ystod ehangach o ddeunydd dysgu i fyfyrwyr.
  • Cynwysoldeb: Gallai ChatGPT a modelau deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol eraill helpu i wella hygyrchedd i fyfyrwyr ag anableddau trwy ddarparu dulliau amgen o gyfathrebu, dysgu a chymorth.
  • Ymchwil a dadansoddi data: Gallai modelau deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol gael eu defnyddio i greu data a dadansoddi canfyddiadau ymchwil a allai fod yn help i wella ymchwil academaidd mewn nifer o feysydd.
  • Heriau o'n blaenau: Mae deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol yn creu pryderon ynghylch uniondeb academaidd a gwir natur dysgu, gan gwestiynu a allai’r mynediad hawdd at wybodaeth danseilio datblygiad sgiliau meddwl yn feirniadol a datrys problemau. Yr her yw defnyddio galluoedd ChatGPT i wella deilliannau addysgol wrth ddiogelu gwerthoedd craidd ysgolheictod a thwf deallusol. 

Y tu allan i addysg uwch, mae'r Athro Dwivedi yn credu y gallai’r tarfu cymdeithasol ac adleoli swyddi fod yn sylweddol, ac yn fwy byth, yn gyflymach nag ar unrhyw adeg mewn hanes.  

Mae'r ffordd y mae pobl yn datblygu galluoedd deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol ymhellach ac yn eu mabwysiadu yn debygol o lywio’r dyfodol mewn mwy o ffyrdd nag yr ydym yn ymwybodol ohonynt, ac wrth i gymdeithas ddechrau amgyffred ag effaith y tarfu gan ddeallusrwydd artiffisial cynhyrchiol, bydd ymchwil empirig, sy'n cynnig mewnwelediad i gymhlethdodau niferus ac amrywiol deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol hollbresennol, yn hanfodol.  

Darllenwch fwy am hyn ym mhapur barn 2023 y dyfynnwyd llawer amdano "So what if ChatGPT wrote it?” Multidisciplinary perspectives on opportunities, challenges and implications of generative conversational AI for research, practice and policy.

Text ReadsNodau datblygu cynaliadwy y cenhedloedd unedig
UNSDG 9 Industry innovation and infrastructure
Themâu ymchwil Prifysgol Abertawe