Yr Her
A oes risg y byddwn yn cwympo i ‘dywyllwch digidol’? A fydd technoleg yn arwain at golli cyfathrebu wyneb yn wyneb?
Mae’r Athro Matt Jones yn credu bod risg ac mae’n credu y bydd ymagwedd at dechnolegau digidol sy’n canolbwyntio ar bobl yn ein helpu i atal hyn a helpu i fynd i’r afael â ‘dyfodiad y robot’.
Y Dull
Mae’r Athro Jones a’i dîm wedi teithio’n helaeth i gymunedau mewn ardaloedd gwledig mewn lleoedd megis De Affrica a’r India i weithio gyda phobl yno i ddatblygu technolegau newydd sy’n seiliedig ar bobl. Mae’r tîm yn gweithio gydag amrywiaeth o randdeiliaid, gan gynnwys IBM a Microsoft Office ac yn fwyaf diweddar, Sefydliad Technoleg yr India ym Mymbai, i ymchwilio i dechnoleg ar gyfer nifer gynyddol y defnyddwyr yno. Mae’r Athro Jones a’i dîm wedi ymweld â Mymbai, gyda phrototeip o system sy’n seiliedig ar leferydd sy’n debyg i Alexa neu Google Home, ac a ddatblygwyd ar ôl ymweliadau blaenorol â Mymbai ar y cyd â’r bobl yno. Byddai modd i bobl a oedd yn gofyn cwestiwn i ddyfais gael yr opsiwn o gael ateb gan berson os nad oeddent yn hapus gydag ateb y dechnoleg cynorthwy-ydd lleferydd.
canolfan hyfforddiant doethurol
Mae’r Adran Gyfrifiadureg newydd sefydlu canolfan hyfforddiant doethurol a fydd yn datblygu 55 o ymchwilwyr newydd dros y 9 blynedd nesaf a fydd yn mynd i weithio gyda chwmnïoedd megis Google a Facebook, a sefydliadau’r sector cyhoeddus megis y GIG i ddod â safbwyntiau sy’n canolbwyntio ar bobl i Ddeallusrwydd Artiffisial a Data Mawr.
technolegau sy'n canolbwyntio ar bobl
Yn Ffowndri Gyfrifiadol newydd Prifysgol Abertawe, mae gwyddonwyr yn ymchwilio i’r cyfleoedd ar gyfer technolegau newydd sy’n canolbwyntio ar bobl fel y gall technoleg ganolbwyntio’n fwy ar allu dynol.
Ysbrydoli cenedlaethau'r dyfodol
Mae prosiect hynod lwyddiannus y Brifysgol, Technocamps, yn ymgysylltu ag ysgolion ledled Cymru, i ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol a sicrhau eu bod yn gallu lleisio barn o ran y math o ddyfodol sy’n cael ei greu ar eu cyfer drwy ddylunio technoleg.