Yr Her
Mae risg seiber, sef risg ymosodiad seiber a thwyll/lladrad data, wedi cael ei nodi'n un o'r risgiau sy'n achosi'r pryder mwyaf i gyrff masnachol ledled y byd.Nodwedd sy'n diffinio risgiau seiber yw na chânt eu cyfyngu gan ffiniau daearyddol, sy'n ei gwneud yn llai tebygol y caiff troseddwyr eu hadnabod ac yn fwy tebygol y bydd angen mesurau diogelu soffistigedig.Nid oes amheuaeth bod risgiau seiber yn risg fwy i fusnesau bach a chanolig oherwydd na fyddai ganddynt yr wybodaeth a'r dulliau i ddiogelu eu hunain rhag risgiau fel hynny.Yn y cyd-destun hwn, gall busnesau bach a chanolig ddefnyddio yswiriant risg seiber fel dull rheoli risg ond cynnyrch gweddol newydd yw yswiriant risg seiber ac nid oes tystiolaeth sy'n awgrymu naill ai fod busnesau bach a chanolig yn methu prynu yswiriant seiber digonol er mwyn diogelu eu diddordebau busnes, neu fod y mathau o yswiriant sydd ar gael yn methu darparu yswiriant digonol. Diben y prosiect hwn, a arweinir gan yr Athro Baris Soyer a Dr George Leloudas o Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton (a ariennir gan Gronfa Arloesedd Ymchwil Cymru), yw profi cywirdeb yr hypothesis hwn drwy gyfweliadau â busnesau bach a chanolig ledled Cymru.Nod yr astudiaeth hon yn y pen draw yw llunio canllawiau ar gyfer busnesau bach a chanolig ynghylch sut y gallent wneud y gorau o'r yswiriant seiber y gallant ei gael o'r farchnad, ac felly ddefnyddio yswiriant risg seiber fel dull rheoli risg effeithiol yn erbyn risgiau seiber