Yr Athro Georgios Leloudas

Athro, Law

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 606749

Cyfeiriad ebost

048
Llawr Gwaelod
Adeilad Richard Price
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Ymunodd George â'r Sefydliad Cyfraith Morgludiant a Masnachu Rhyngwladol (IISTL) yn 2011 fel darlithydd a chafodd ddyrchafiad i uwch ddarlithydd yn 2014. Graddiodd o Brifysgol Genedlaethol a Kapodistrian Athen, ac mae ganddo raddau LLM mewn Cyfraith Fasnachol o Brifysgol Bryste ac mewn Cyfraith Awyr a Gofod o Sefydliad Cyfraith Awyr a Gofod Prifysgol McGill. Cwblhaodd ei radd PhD mewn cyfraith yr awyr gyda phwyslais ar atebolrwydd ac yswiriant yn Neuadd y Drindod, Prifysgol Caergrawnt yn 2009.

Cyn hynny, bu George yn gweithio fel Cyfreithiwr yn Gates and Partners yn Llundain am nifer o flynyddoedd lle bu’n rhoi cyngor ar atebolrwydd awyrofod a materion rheoleiddio cwmnïau awyrennau. Roedd hefyd yn gynorthwyydd i gwnsler cyfreithiol Undeb Rhyngwladol Yswirwyr Hedfan (IUAI) yn darparu cymorth mewn perthynas â disodli Confensiwn Rhufain ar Ddifrod Arwyneb. Mae'n hyfforddwr yn Sefydliad Hyfforddi a Datblygu'r Gymdeithas Cludiant Awyr Rhyngwladol (IATA) lle mae'n addysgu cyfraith awyr ryngwladol i gyfreithwyr a gweithwyr cyfreithiol proffesiynol, cyfraith yswiriant hedfan ac atebolrwydd am gargo awyr.

Meysydd Arbenigedd

  • Cludo nwyddau a theithwyr yn yr awyr ac ar ffyrdd
  • Cyfraith awyrennau ac yswiriant morol
  • Cludiant amlfoddol
  • Cyllid awyrennau
  • Systemau trafnidiaeth awtonomaidd
  • Risgiau seiber yn y sector trafnidiaeth
  • Canfyddiadau risg a chyfraith trafnidiaeth

Uchafbwyntiau Gyrfa

Ymchwil

Prif ddiddordeb ymchwil George yw cludo teithwyr a nwyddau mewn awyren, ond mae ei ddiddordebau'n ymestyn i drafnidiaeth amlfoddol, cyfraith yswiriant a rheoleiddio systemau trafnidiaeth awtonomaidd. Mae wedi cyhoeddi dau fonograff, yr un cyntaf ar risg ac atebolrwydd mewn cyfraith awyr a'r ail un ar yswiriant cargo awyr gyda'r Athro Malcolm Clarke o Brifysgol Caergrawnt. Mae hefyd yn un o olygyddion y cyhoeddiad cyfraith trafnidiaeth blaenllaw, Shawcross a Beaumont on Air Law, gan fod yn gyfrifol am benodau atebolrwydd (am deithwyr a chargo) y cyhoeddiad.