Dr Simon Crabtree

Tiwtor yn y Gyfraith, Law

Cyfeiriad ebost

151
Llawr Cyntaf
Adeilad Richard Price
Campws Singleton

Trosolwg

Ymunodd Simon Crabtree ag Ysgol y Gyfraith fel aelod staff llawn amser yn 2019, ar ôl gweithio am dair blynedd fel Cynorthwyydd Addysgu Graddedigion yn ystod ei astudiaethau PhD ac ar ôl graddio o'r Ysgol ar frig ei ddosbarth yn 2015. Mae hefyd wedi gweithio fel Trafodwr Achosion ym maes ymgyfreitha contractau ar gyfer y cwmni cyfreithiol Lyons Davidson ym Mryste. 

Mae ei ymchwil hyd yma yn canolbwyntio ar ddyletswyddau ymhlyg didwylledd wrth gyflawni contractau, ac mae wedi cyhoeddi a siarad yn rhyngwladol ar y pwnc hwn. Mae wedi addysgu Cyfraith Contract yn yr Ysgol ers 2016, a Chyfraith Tir ers 2019.