Dr Tom Hannant

Darlithydd, Law

Cyfeiriad ebost

107
Llawr Cyntaf
Adeilad Richard Price
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Ymunodd Tom Hannant ag Ysgol y Gyfraith fel Darlithydd yn y Gyfraith yn haf 2017. Mae ganddo raddau o Brifysgol Caerdydd (LLB), Prifysgol Caergrawnt (LLM), a'r Frenhines Mary, Prifysgol Llundain (PhD).

Prif ddiddordebau ymchwil Tom yw Athroniaeth Gyfreithiol a Gwleidyddol, Cyfraith Gyhoeddus a Hawliau Dynol. Mae ei ymchwil gyfredol yn canolbwyntio ar sylfeini damcaniaethol hawliau dynol ac agweddau damcaniaethol ar Gyfraith Gyhoeddus y DU. Mae hefyd yn cynnull Grŵp Trafod Cyfraith Gyhoeddus yr Ysgol.

Mae Tom yn addysgu Cyfraith Gyhoeddus i israddedigion y flwyddyn gyntaf. Mae'n gymrawd yr Academi Addysg Uwch ac yn cymryd rhan yn rhaglen Addysgu Drws Agored y Brifysgol.

Meysydd Arbenigedd

  • Cyfraith Gyhoeddus
  • Damcaniaeth Gyfreithiol
  • Damcaniaeth Wleidyddol
  • Hawliau Dynol
  • Datganoli