Dr Osian Rees

Athro Cyswllt, Law

Cyfeiriad ebost

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Rhugl
020
Llawr Gwaelod
Adeilad Richard Price
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Ymunodd Dr Osian Rees â Phrifysgol Abertawe ym mis Hydref 2018. Dechreuodd ei yrfa academaidd ym Mhrifysgol Bangor yn 2004, ar ôl iddo gael ei benodi'n ddarlithydd yn Ysgol y Gyfraith y Brifysgol a oedd newydd ei sefydlu. Wedi hynny cafodd ei ddyrchafu'n uwch-ddarlithydd cyn cael ei benodi'n Bennaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Prifysgol Bangor yn 2015. Yn y rôl hon, bu Dr Rees yn gyfrifol am weithredu prosesau sicrhau ansawdd Prifysgol Bangor, gan gynnwys cymeradwyo ac adolygu rhaglenni. Cyfrannodd hefyd at amrywiaeth o fentrau gwella/cyfoethogi a bu'n arwain y gwaith o ddatblygu Fframwaith Asesu ar gyfer y Brifysgol gyfan. Yn ystod ei gyfnod fel Pennaeth Sicrhau Ansawdd, bu Prifysgol Bangor yn destun adolygiad sefydliadol llwyddiannus iawn gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ym mis Mai 2018.

Ers iddo ymuno â Phrifysgol Abertawe, mae Dr Rees wedi parhau i gyflawni rolau sicrhau a gwella ansawdd. Mae'n aelod o Bwyllgor Cymeradwyo Rhaglenni a Bwrdd Darpariaeth Gydweithredol y Brifysgol ac ef yw Dirprwy Gadeirydd y Pwyllgor Ansawdd Data Academaidd.

Mae wedi datblygu proffil ymchwil ym meysydd datganoli, hawliau dynol plant a chyfraith teulu. Mae Dr Rees wedi cyhoeddi mewn amrywiaeth o gyfnodolion academaidd blaenllaw, gan gynnwys Child and Family Law Quarterly, the International Journal of Children’s Rights, Statute Law Review, Conveyancer and Property Lawyer, Contemporary Wales, Gwerddon a'r Wales Journal of Law and Policy. Mae wedi ymgymryd â nifer o brosiectau ymchwil wedi’u hariannu, gan gynnwys dau brosiect i archwilio effaith datganoli ar ddatblygu Cyfraith Teulu yng Nghymru

Mae Dr Rees wedi addysgu amrywiaeth o bynciau cyfreithiol ar lefelau israddedig ac ôl-raddedig. Yn ogystal, mae wedi goruchwylio nifer o fyfyrwyr i gwblhau eu graddau PhD yn llwyddiannus. Mae'n siaradwr Cymraeg rhugl ac mae wedi addysgu a goruchwylio drwy gyfrwng y Gymraeg.

Uchafbwyntiau Gyrfa

Prif Wobrau

Graddiodd Dr Rees o Brifysgol Cymru, Aberystwyth yn 2001 â Gradd LLB Anrhydedd Dosbarth Cyntaf. Wrth iddo raddio, derbyniodd nifer o wobrau am ragoriaeth academaidd, gan gynnwys Gwobr Syr Samuel Evans am y perfformiad gorau yn arholiadau terfynol  y Gyfraith ym mhrifysgolion Cymru. Ar ôl graddio, astudiodd am ddoethuriaeth yn Aberystwyth a dyfarnwyd ysgoloriaeth lawn iddo gan yr ESRC. Yn ei draethawd ymchwil, gwerthusodd effaith sefydlu rôl Comisiynydd Plant Cymru ar hyrwyddo hawliau plant a phobl ifanc Cymru.