Ms Trish Rees

Uwch-ddarlithydd, Law

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 513511

Cyfeiriad ebost

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Sylfaenol
017
Llawr Gwaelod
Adeilad Richard Price
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Wedi ei geni a’i magu yn Abertawe, ar ôl gorffen ei gradd yn y gyfraith, dechreuodd Trish weithio yn yr Adran Astudiaethau Cymdeithasol Cymhwysol gan weithio ar y Rhaglen Gweithwyr Cymdeithasol Cymeradwy a chyflwyno sesiynau i weithwyr cymdeithasol ar gyfraith iechyd meddwl. Symudodd i Adran y Gyfraith yn 2002 ac mae bellach yn gyfarwyddwr modiwl ar gyfer Cyfraith Feddygol a Chyfraith Atgenhedlu ac yn dysgu ar fodiwlau Cyfraith Camwedd a Chontract. Hi hefyd yw Cyfarwyddwr Cyflogadwyedd y Coleg.

Mae Trish wrth ei bodd yn bod yn rhan o Ysgol y Gyfraith a chymuned ehangach y Brifysgol. Mae'n teimlo'n lwcus i gael swydd hynod o amrywiol sy'n caniatáu iddi ryngweithio nid yn unig â myfyrwyr a chydweithwyr ond hefyd gydag aelodau o'r proffesiwn cyfreithiol a phartneriaid mor bell i ffwrdd ag Ontario, Canada.

Uchafbwyntiau Gyrfa

Prif Wobrau
  • Mae Trish yn Gymrawd yr Academi Addysg Uwch.
  • Cafodd ei henwebu am Wobr Rhagoriaeth mewn Dysgu ac Addysgu Prifysgol Abertawe yn 2020, a'i henwi fel un o'r 20 gorau yn y sefydliad, gan gyrraedd y cam panel, sef cam terfynol y broses.
  • Cafodd Trish ei henwebu hefyd ar gyfer Athro y Gyfraith y Flwyddyn LawCareers Net 2017.
Cydweithrediadau