Dr Emma Nishio

Darlithydd, Law

Cyfeiriad ebost

146
Llawr Cyntaf
Adeilad Richard Price
Campws Singleton

Trosolwg

Ymunodd Dr Emma Borland ag Ysgol y Gyfraith ym mis Hydref 2016. Mae'n addysgu Cyfraith Gyhoeddus ac mae ei diddordebau ymchwil yn ymwneud â mynediad at gyfiawnder i geiswyr lloches a ffoaduriaid. Emma yw cydlynydd modiwl traethawd Hir LLB y Gyfraith ac mae'n aelod o Bwyllgor Rhaglen Hawliau Dynol LLM.

Mae gan Emma LLB (Anrh) o Brifysgol Caeredin, LLM (Rhagoriaeth) mewn Cyfraith Hawliau Dynol o Brifysgol Caerdydd ac MSc mewn Dulliau Ymchwil Gwyddorau Cymdeithasol o Brifysgol Caerdydd. Roedd ei LLB yn cynnwys blwyddyn Erasmus yn Université Paul Cézanne – Aix Marseille III, Ffrainc. Mae'n ymchwilydd PhD ac mae ei thesis doethurol (a ariennir gan ESRC) yn archwilio'r cysyniad o degwch o fewn dyfarniadau lloches yng Nghymru a Lloegr.

Mae ganddi dros chwe blynedd o brofiad fel cynghorydd mewnfudo achrededig, a’i gwaith fel ymarferydd, yn arbenigo mewn achosion lloches, a ysbrydolodd ei diddordeb ymchwil. Mae Emma wedi ymrwymo i helpu ceiswyr lloches a ffoaduriaid ers iddi wneud interniaeth o 6 mis yn 2008/09 fel cynghorydd cyfreithiol ar gyfer Cymorth Ffoaduriaid Affrica a'r Dwyrain Canol (AMERA), cangen yr Aifft o gorff anllywodraethol yn y DU.

Fel Ymddiriedolwr Asylum Justice, mae Emma yn gweithio i wella mynediad at gyfiawnder i geiswyr lloches a ffoaduriaid yng Nghymru.