Miss Cerys Evans

Uwch-ddarlithydd, Law

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 602373

Cyfeiriad ebost

004
Llawr Gwaelod
Adeilad Richard Price
Campws Singleton

Trosolwg

Mae Cerys wedi bod yn darlithio yn y Gyfraith ers 1993. Dechreuodd ei gyrfa yn darlithio mewn Cyfraith Contract a Masnachol, ar ôl graddio â gradd LLB mewn Cyfraith Busnes ac LLM mewn Cyfraith Masnach Ewropeaidd a Rhyngwladol. Fodd bynnag, oherwydd ei diddordeb brwd gydol oes mewn chwaraeon, aeth ati i gwblhau gradd Meistr mewn Cyfraith Chwaraeon Ryngwladol ym 1999. Gan barhau i gyfrannu at y modiwl Cyfraith Contract, Cerys yw arweinydd dau fodiwl ym maes Cyfraith Chwaraeon ar y rhaglen LLB - Chwaraeon ac Atebolrwydd a Chwaraeon a Materion Cyfreithiol. Gwahaniaet­hu mewn chwaraeon a materion rhywedd mewn chwaraeon yn benodol yw ei phrif feysydd diddordeb. Mae hi'n Gymrawd yr Academi Addysg Uwch sy'n cydnabod ymrwymiad i broffesiynoldeb ym maes addysgu a dysgu mewn addysg uwch.

Mae Cerys bob amser wedi mwynhau canolbwyntio ar ochr fugeiliol profiad myfyrwyr ac adlewyrchir hyn yn ei rolau yn yr Ysgol. Hi yw'r tiwtor cyswllt Anabledd a Lles, a'r Uwch-fentor Academaidd ac fel Swyddog Diogelu mae hi'n gyfrifol am oruchwylio lles myfyrwyr dan 18 oed sy'n astudio yn yr Ysgol. Mae Cerys yn ymwneud yn weithredol â gweithgarwch ymgysylltu â myfyrwyr ac mae hi'n cyfrannu'n rheolaidd at gyflwyno gweithdai Cyfraith Chwaraeon mewn ysgolion ac at amrywiaeth o raglenni allgymorth y brifysgol.

Pan nad yw'n gweithio, mae Cerys i'w gweld ym Mharc yr Arfau yng Nghaerdydd yn cefnogi Clwb Rygbi Caerdydd a Gleision Caerdydd neu'n gwylio chwaraeon yn gyffredinol!