Dr Ashley Mattheis

Aelod Cyswllt, Hillary Rodham Clinton Law School

Trosolwg

Ysgolhaig cyfathrebu yw Ashley A. Mattheis. Mae ei gwaith yn dwyn ynghyd astudiaethau diwylliannol, astudiaethau’r cyfryngau, a beirniadaeth rethregol weledol, trwy lens theori ffeministaidd i archwilio effeithiau materol cynhyrchu diwylliannol a defnydd ar-lein. Mae ei meysydd ymchwil yn cynnwys diwylliannau digidol y 'Momosphere,' y Dde Amgen, y 'Manosphere,' a #Tradwives gyda'r nod o ddeall yn well sut y defnyddir rhesymegau rhyweddol i hyrwyddo casineb hiliol, gwahaniaethu, ac i hyrwyddo trais. Mae ei chyhoeddiadau yn cynnwys: Atomwaffen Division and its Affiliates on Telegram: Variations, Practices, and Interconnections a report for the Resolve Network, “#TradCulture: Reproducing Whiteness and Neofascism through Gendered Discourse Online,” yn y  Routledge Handbook of Critical Studies in Whiteness,” “Shieldmaidens of Whiteness: (Alt)Maternalism and Women Recruiting for the Far/Alt-Right,” yn y Journal for Deradicalization, a ‘The Greatness of Her Position’: Comparing Identitarian and Jihadi Discourses on Women, adroddiad a gyhoeddwyd gan yr International Centre for the Study of Radicalization. Mae ganddi Ph.D. mewn Cyfathrebu o Brifysgol Gogledd Carolina yn Chapel Hill.

Meysydd Arbenigedd

  • Diwylliannau Eithafol Digidol
  • Cyfryngau Cymdeithasol a "Newydd"
  • Damcaniaeth Groesoriadol a Ffeministiaeth Pobl Dduon
  • Y Cyfryngau Gweledol
  • Propaganda
  • Teledu a’r Byd Cyhoeddus
  • Diwylliant Poblogaidd
  • Diwylliant Dylanwadwyr

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu
  • Rhywedd, Cyfathrebu, a Diwylliant
  • Amrywiaeth Ddiwylliannol mewn Cyfathrebu
  • Trais Gwleidyddol a’r Cyfryngau Gweledol
  • Rhywedd ac Eithafiaeth (dulliau croestoriadol)
  • Y Cyfryngau Newydd ac Eithafiaeth Ddigidol
  • Cymdeithasu Digidol
Ymchwil Prif Wobrau Cydweithrediadau