Yr Athro Baris Soyer

Athro mewn Cyfraith Fasnachol a Morwrol, Law

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 295125

Cyfeiriad ebost

052
Llawr Gwaelod
Adeilad Richard Price
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Penodwyd yr Athro Soyer yn ddarlithydd yn Abertawe yn 2001 a chafodd ddyrchafiad i fod yn ddarllenydd yn 2006 ac yn Athro yn 2009. Fe'i benodwyd yn Gyfarwyddwr y Sefydliad Cyfraith Morgludiant a Masnachu yn Ysgol y Gyfraith, Abertawe ym mis Hydref 2010. Cyn hynny bu'n ddarlithydd ym Mhrifysgol Caerwysg. Ar hyn o bryd, ef yw Cyfarwyddwr Cyfraith Morgludiant a Masnachu ac mae'n ymwneud ag addysgu'r modiwlau canlynol yn ein rhaglen LLM: Cyfraith Morlys, Cyfraith Yswiriant Morol a Siartrau Llogi Llong: Cyfraith ac Ymarfer.

Mae ei brif ddiddordeb ymchwil ym maes yswiriant, yn enwedig yswiriant morol, ond mae ei ddiddordebau'n ymestyn yn eang ym meysydd cyfraith forol a chyfraith contract. Ar wahân i ysgrifennu dau fonograff (Warranties in Marine Insurance Law a Marine Insurance Fraud), cyhoeddodd yn helaeth mewn cyfnodolion uchel eu parch fel y Cambridge Law Journal, Law Quarterly Review, Edinburgh Law Review, Lloyd’s Maritime and Commercial Law Quarterly, Berkeley Journal of International Law, Journal of Business Law, Torts Law Journal a'r Journal of Contract Law. Mae ar fwrdd golygyddol y Journal of International Maritime Law, Shipping and Trade Law a Baltic Maritime Law Quarterly a phwyllgor golygyddol Lloyd’s Maritime and Commercial Law Quarterly (International Maritime and Commercial Law Yearbook).

Meysydd Arbenigedd

  • Cyfraith Fasnachol a Morol
  • Cyfraith Yswiriant
  • Cyfraith Rhwymedigaethau
  • Siartrau Llogi Llong

Uchafbwyntiau Gyrfa

Ymchwil
  • Yr Athro Soyer yw Cyfarwyddwr y Sefydliad Cyfraith Morgludiant a Masnachu Rhyngwladol ym Mhrifysgol Abertawe.
  • Ef yw Prif Ymchwilydd prosiect Cronfa Arloesedd Ymchwil Cymru sy'n gweithio ar yswiriant risg seiber.
  • Ef oedd prif Ymchwilydd Grant Sefydliad Waterloo i archwilio effaith yswiriant ar bysgota anghyfreithlon (cwblhawyd yn 2018).
  • Derbyniodd Baris Grant Ymchwil Sefydliad Nuffield (a gwblhawyd yn 2009).
  • Mae ar Bwyllgor Golygyddol Lloyd’s Maritime and Commercial Law Quarterly (International Maritime and Commercial Law Yearbook) ac ar Fwrdd Golygyddol y Journal of International Maritime Law and Shipping and Trade Law.
  • Gwasanaethodd fel Golygydd y Journal of International Maritime Law (2002-2018).
Prif Wobrau