Yr Athro Angela Devereux

Athro Emeritws (Y Gyfraith), Law

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 295979

Cyfeiriad ebost

Trosolwg

Cafodd Angela ei geni ger Manceinion, gan fyw am flynyddoedd lawer yn Sussex ac am sawl blwyddyn ym Mharis. Symudodd i Gaerdydd ym 1993 lle mae'n byw yn Sain Ffagan. Mae ganddi radd yn Saesneg o Brifysgol Efrog. Cyn cymhwyso fel cyfreithiwr, roedd hi'n sgubo'r ffyrdd, yn newyddiadurwr, weithiau’n gyfieithydd ac yn fam. Mae hi'n dwlu ar rygbi ac wedi gweithio fel newyddiadurwr, yn cyfweld â chwaraewyr yng Nghwpan Rygbi'r Byd yn 2015.  Mae'n dwlu ar bêl-rwyd, a bu'n cystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad yn 2018 yn y gêm hanesyddol a buddugol rhwng Lloegr ac Awstralia.   Mae wedi chwarae i dîm y staff bob blwyddyn ar gyfer gêm pêl-rwyd Varsity, ar gyfer Prifysgol Caerdydd gynt, lle bu'n gweithio am 25 o flynyddoedd ond bellach mae'n gobeithio cynrychioli Abertawe.

Mae Angela'n mwynhau actio. Mae wedi cymryd rhan ddwywaith ym Mhrosiect Llwyfannau Agored Cwmni Brenhinol Shakespeare (RSC) ac yn 2017, yng Nghanolfan y Celfyddydau Chapter, rhoddodd ei pherfformiad cyntaf o fonolog newydd, rhan o gyfres Reduced Motherhood, a ysgrifennwyd gan Michael Corbridge o’r RSC. Mae ganddi drwydded beic modur ac mae'n reidio Kawasaki W800, ond mae'n hoffi beicio mewn tywydd braf, yn wahanol i'w gŵr diofn sy'n cymudo i Abertawe ar ei un ef. Mae hi'n dysgu Eidaleg, gan obeithio cyfoethogi ei phrofiad o operâu – a’r Arolygydd Montalbano – a'i gallu i werthfawrogi’r Eidal.

Mae ganddi fab a merch, un sy’n feddyg teulu a’r llall sydd weithiau’n joci mewn stablau ceffylau rasio, bellach yn rigiwr cychod, yn actor ac yn weinyddwr, yn ogystal â dwy gath achub o’r enw Billy a Django. Cafodd ei chadair bersonol ym Mhrifysgol Caerdydd o ganlyniad i’w gwaith yn datblygu cyrsiau hyfforddi’n seiliedig ar sgiliau yma a thramor. Ymunodd â Phrifysgol Abertawe yn 2018 i gyfoethogi’r ddarpariaeth o gyfleoedd dysgu sy’n gysylltiedig ag ymarfer proffesiynol, a sgiliau cyfreithiol yn benodol. Mae’n wych cael heriau newydd mewn sefydliad sydd wedi dangos mewn cynifer o ffyrdd ei fod yn ymrwymedig i hyfforddi’r gyfraith i bobl a fydd yn ei defnyddio fel grym cadarnhaol yn ein cymdeithas, boed wrth ymarfer y gyfraith yn broffesiynol neu ryw faes arall.