Dr Caroline Jones

Athro Cyswllt, Law

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Rhugl
044
Llawr Gwaelod
Adeilad Richard Price
Campws Singleton

Trosolwg

Mae diddordebau ymchwil Caroline ym maes cyfraith gofal iechyd yn bennaf ac, yn hanesyddol, ym maes cyfraith teulu.

Mae ganddi ddiddordeb penodol ym mhrosesau llunio'r Gyfraith a'i heffaith ehangach, yn enwedig rôl ymgyfreitha drwy achosion prawf wrth lywio cyfraith gofal iechyd. Mae Caroline wedi archwilio deddfu cuddiedig yn y cyd-destun hwn gyda Hazel Biggs (Emeritws, Prifysgol Southampton) a Jonathan Montgomery (UCL); mae wedi myfyrio ar ymagweddau bywgraffiadol at astudio achosion prawf (gyda Montgomery); ac mae ei gwaith ar strategaethau ymgyfreitha mewn cyd-destunau gofal iechyd yn parhau.

Yn ogystal, mae ganddi ddiddordeb brwd yn y materion cyfreithiol, moesegol a rheoleiddiol sy'n deillio o ddatblygu a defnyddio deallusrwydd artiffisial mewn cyd-destunau gofal iechyd. Mae hi wedi gweithio gyda Jeremy C Wyatt (Prifysgol Southampton); James Thornton (Prifysgol Nottingham Trent); Age Chapman (Prifysgol Southampton); Rose Worley (Prifysgol Abertawe/annibynnol); a Chloe L Harrison (Adferiad Recovery) ar brosiectau yn y maes hwn. Cwblhaodd y tîm brosiect yn ddiweddar a oedd wedi'i ariannu gan yr Academi Brydeinig/ Leverhulme ac a archwiliodd broblemau o ran ymddiriedaeth a dibynadwyaeth Deallusrwydd Artiffisial mewn gwasanaethau iechyd meddwl. Mae canfyddiadau'r tîm wedi cael eu cyflwyno mewn sawl cynhadledd, gan gynnwys cynhadledd flynyddol yr SLSA (2023, 2024), a Chynhadledd y We (a gynhelir ym mis Mai 2024, Singapore), ac mae'r tîm yn llunio adroddiad ar y gwaith hwn ar hyn o bryd i'w gyhoeddi.

Roedd ymchwil gynharach Caroline yn canolbwyntio ar lunio polisïau cyhoeddus a dehongliadau cymdeithasol-gyfreithiol o gyfrifoldebau rhieni a charennydd. Mae ganddi ddiddordeb brwd ym materion beichiogi drwy roddwyr, hunaniaeth, benthyg croth, clonio a rheoleiddio beichiogi â chymorth yn fwy cyffredinol. 

Mae hi'n Gymrawd o'r Academi Addysg Uwch.

Meysydd Arbenigedd

  • Cyfraith Gofal Iechyd
  • Cyfraith Teulu
  • Deddfu cuddiedig ac ymgyfreitha achosion prawf
  • Bywgraffiadau achosion
  • Deallusrwydd Artiffisial mewn gofal iechyd
  • Cyfrifoldebau cyfreithiol rhieni a charennydd
  • Rheoleiddio beichiogi â chymorth