Dr Sara Correia-Hopkins

Darlithydd Seiber-fygythiadau, Law

Cyfeiriad ebost

103
Llawr Cyntaf
Adeilad Richard Price
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Ymunodd Sara ag Ysgol y Gyfraith ym mis Awst 2020.  Ei diddordebau ymchwil yw troseddu ac erledigaeth yn y byd digidol, plismona, technoleg gyfreithiol a chyfraith dechnegol, yn ogystal â moeseg data. Mae ganddi brofiad o ddefnyddio dulliau ansoddol a meintiol ac mae'n angerddol am fanteision gweithio mewn partneriaeth â chydweithwyr a rhanddeiliaid, i ddefnyddio manteision dulliau cymysg ac ymchwil ryngddisgyblaethol.

Mae gan Sara radd BSc mewn Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol a Diploma yn y Gyfraith i Raddedigion. Mae hi hefyd wedi ymgymryd â gradd MSc drwy Ymchwil ar blismona gwrth-derfysgaeth.  Yn ogystal, mae wedi gweithio fel ymchwilydd yn y sectorau diwydiant ac academaidd, wedi bod yn intern gyda Swyddfa Gartref y DU, ac wedi bod yn diwtor am bum mlynedd yn y Gyfraith a Throseddeg.

Bu ei phrosiect PhD a ariannwyd gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) yn archwilio bod yn agored i niwed ac erledigaeth (fynych) yng nghyd-destun twyll a throseddau cyfrifiadur, ar y cyd ag Uned Troseddu Cyfundrefnol Rhanbarth De Cymru. 

Yn ei hamser hamdden, mae Sara'n gwirfoddoli gyda'r elusen Asylum Justice ac mae'n cynhyrchu ac yn cyd-gyflwyno’r podlediad Digital Faultlines (podlediad Swansea Cyber Law and Security gynt).

Meysydd Arbenigedd

  • Twyll
  • Trosedd gyfrifiadurol
  • Dioddefwyr troseddau
  • Cyfraith technoleg
  • Plismona
  • Moeseg data

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu
  • Cyfraith seiberdroseddu
  • Cyfraith trosedd
  • Cyfraith yr Undeb Ewropeaidd
  • Dulliau ymchwil
  • Dioddefwyr
  • TechGyfreithiol
Prif Wobrau