Dr Kamil Yilmaz

Dr Kamil Yilmaz

Swyddog Ymchwil Ôl-ddoethurol, Law

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 205678 ext 1287

Cyfeiriad ebost

Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae Dr. Yilmaz yn gweithio fel ymchwilydd ôl-ddoethurol yn y Gghanolfan Ymchwil i Seiberfygythiadau (CyTREC), Prifysgol Abertawe.

Mae ganddo PhD mewn anthropoleg gymhwysol (wleidyddol) o Brifysgol Columbia a sawl gradd Meistr mewn cyfiawnder troseddol, materion rhyngwladol ac anthropoleg. Mae wedi addysgu myfyrwyr israddedig a graddedig mewn gwrthderfysgaeth, gwleidyddiaeth ryngwladol, dadansoddi disgwrs a dulliau ymchwil yn seiliedig ar ddamcaniaeth ac ymarfer.

Ef yw awdur “Disengaging from Terrorism: Lessons from the Turkish Penitents” (Routledge 2014) a nifer o erthyglau mewn perthynas â gwrthderfysgaeth. Mae gan Dr. Yilmaz ddiddordeb mewn Gwyddor Gymdeithasol Gyfrifiadol ac mae ei ddiddordebau ymchwil yn cynnwys trais gwleidyddol, anthropoleg terfysgaeth, prosesau radicaleiddio a dadradicaleiddio o ran terfysgaeth, dadansoddi disgwrs a defnydd terfysgwyr o’r rhyngrwyd a'r cyfyngau cymdeithasol.

Meysydd Arbenigedd

  • Terfysgaeth a thrais gwleidyddol
  • Radicaleiddio/ Dadradicaleiddio/Ymddieithrio
  • Gwrthderfysgaeth
  • Defnydd terfysgwyr o’r rhyngrwyd a'r cyfryngau cymdeithasol
  • Dadansoddi Disgwrs

Uchafbwyntiau Gyrfa

Prif Wobrau

 

2010

 

  • Ysgoloriaeth Cymrodoriaeth Ymchwil Lawn am ddwy flynedd mewn Sefydliad Rhyngwladol gan Swyddfa Gartref Twrci (100,000 o ddoleri’r Unol Daleithiau)

2008

  • Cymrodoriaeth Ymchwil Maes dros yr Haf, Prifysgol Columbia (1,500 o ddoleri'r Unol Daleithiau)

2007

  • Tystysgrif Rhagoriaeth, Swyddfa Gartref Twrci

2006

  • Tystysgrif Rhagoriaeth, Swyddfa Gartref Twrci

2004

  • Ysgoloriaeth Lawn i Astudio Dramor am bedair blynedd, Swyddfa Gartref Twrci (232,000 o ddoleri'r Unol Daleithiau)#

1999

  • Tystysgrif Rhagoriaeth, Ysgol Alwedigaethol Uwchradd Heddlu Balikesir