Dr Livio Robaldo

Uwch-ddarlithydd yn y Gyfraith Gyfrifiadurol, Law

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 602421
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae Livio Robaldo yn Uwch Ddarlithydd mewn Cyfraith Gyfrifiadurol sydd wedi arbenigo mewn Prosesu Iaith Naturiol a Chynrychioli Gwybodaeth. Enillodd Livio ei Ph.D. mewn Cyfrifiadureg o Brifysgol Turin yn 2007. Ar ôl hynny, bu'n gweithio fel ymchwilydd ôl-ddoethurol ym Mhrifysgol Turin a Phrifysgol Lwcsembwrg tan 2020, pan gafodd swydd Uwch Ddarlithydd mewn Cyfraith Gyfrifiadurol yn Ysgol y Gyfraith ym Mhrifysgol Abertawe.

Mae wedi ysgrifennu llawer o bapurau mewn cyfnodolion a chynadleddau rhyngwladol ac roedd ganddo rôl weithredol yn y gwaith o ysgrifennu a rheoli prosiectau ymchwil mewn Deallusrwydd Artiffisial a'r Gyfraith, hefyd mewn cydweithrediad â diwydiant, gyda thri phrosiect Marie Sklodowska-Curie H2020 yn eu plith. Mae'r holl wybodaeth am hen brosiectau, cyhoeddiadau a gweithgareddau ymchwil ar gael yn: http://www.liviorobaldo.com.

Meysydd Arbenigedd

  • Cyfraith Gyfrifiadurol
  • Prosesu Iaith Naturiol
  • Cynrychiolaeth Gwybodaeth
  • Deallusrwydd Artiffisial a'r Gyfraith
  • Semanteg Iaith Naturiol
  • Ontolegau Cyfreithiol
  • Rhesymeg Ddeontig
  • Rhesymu Awtomatig