Miss Emma Richards

Tiwtor yn y Gyfraith, Law

Trosolwg

Ymunodd Emma ag Ysgol y Gyfraith Hilary Rodham Clinton, Prifysgol Abertawe, yn diwtor  y Gyfraith ym mis Ionawr 2023, ar ôl addysgu'r Gyfraith am dros bedair blynedd ym maes Addysg Bellach. Mae Emma yn gyn-fyfyriwr o Brifysgol Abertawe, a graddiodd gyda gradd LL.B Anrhydedd Dosbarth Cyntaf yn 2014 a chyda Rhagoriaeth yn y Cwrs Ymarfer Cyfreithiol yn 2016.

Cafodd Emma dros dair blynedd o brofiad trawsgludo gyda chwmni cyfreithiol rhyngwladol, ond roedd bob amser yn parhau'n sicr y byddai ei 'gyrfa gydol oes' yn y byd academaidd. Derbyniodd ragoriaeth yn y cwrs TAR o Brifysgol De Cymru ac mae diddordebau Emma yn cynnwys Cyfraith Trosedd, Troseddeg a Hawliau Dynol. Ar hyn o bryd mae'n paratoi ar gyfer ei PhD mewn Cyfiawnder Ieuenctid.

Meysydd Arbenigedd

  • Cyfraith Trosedd
  • Troseddeg
  • Cyfiawnder Ieuenctid
  • Hawliau Dynol
  • Ecwiti ac Ymddiriedolaethau
  • Cyfraith Tir

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Technoleg ddigidol, yn enwedig arbrofi gydag offer digidol newydd i’w defnyddio yn yr ystafell ddosbarth. Cyn hynny, roeddwn yn aelod o staff addysgu a oedd yn ‘Fentor Digidol i Gymheiriaid’, o ran addysgu yn effeithiol o bell. Cefais fy nghydnabod gan Microsoft fel 'Microsoft Innovative Education Expert' am fy addysgu yn ystod y pandemig.

Prif Wobrau