Yr Athro Maura Conway

Athro Arloesi Bygythiadau Seiber, Law

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 513038

Cyfeiriad ebost

Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Ynghyd â'i swydd yn Abertawe (0.2FTE), mae Dr Maura Conway hefyd yn Athro mewn Diogelwch Rhyngwladol yn Ysgol y Gyfraith a'r Llywodraeth ym Mhrifysgol Dinas Dulyn (DCU) yn Nulyn, Iwerddon. Hi yw Cydlynydd sefydlu rhwydwaith ymchwil VOX-Pol (voxpol.eu).

Prif ddiddordebau ymchwil yr Athro Conway yw’r cysylltiad rhwng terfysgaeth a'r Rhyngrwyd, gan gynnwys seiberfderfysgaeth, gweithrediad ac effeithiolrwydd cynnwys eithafol gwleidyddol treisgar ar-lein, a radicaleiddio ar-lein treisgar. Mae hi'n awdur dros 40 o erthyglau a phenodau yn ei maes(meysydd) arbenigol. Mae ei hymchwil wedi ymddangos mewn Studies in Conflict & Terrorism, Media, War & Conflict, Parliamentary Affairs, a Social Science Computer Review, ymhlith eraill.

Mae'r Athro Conway wedi cyflwyno ei chanfyddiadau gerbron y Cenhedloedd Unedig yn Efrog Newydd, Comisiwn yr Undeb Ewropeaidd ym Mrwsel, Tŷ'r Arglwyddi yn y DU, ac mewn mannau eraill. Mae'n aelod o Fwrdd Cynghori Academaidd Canolfan Gwrthderfysgaeth Europol ac yn aelod o Fwrdd Golygyddol Terfysgaeth a Thrais Gwleidyddol.

Meysydd Arbenigedd

  • Eithafiaeth Ar-lein
  • Terfysgaeth Ar-lein
  • Radicaleiddio Ar-lein
  • Seiberderfysgaeth
  • Gwrthderfysgaeth Ar-lein

Uchafbwyntiau Gyrfa

Cydweithrediadau
  • Aelod, Gweithgor Ymchwil Academaidd ac Ymarferol, Fforwm Rhyngrwyd Byd-eang i Frwydro Terfysgaeth (GIFCT) 2020
  • Aelod, Comisiwn Ewropeaidd, grŵp cwmpasu Cymuned Defnyddwyr (CoU) ar gyfer Brwydro Trosedd a Therfysgaeth (FCT), 2020
  • Aelod, Bwrdd Cynghori Rhyngwladol, prosiect FREXO (Far Right Politics Online and Societal Resilience), Prifysgol Oslo a Phrifysgol Metropolitaidd Oslo, 2019 – Presennol
  • Aelod, Pwyllgor Gwyddonol, prosiect EU H2020 OLTRE (Beyond the Horizon: Counter-narratives Placing Marginalised Young People at the Centre), 2019 – Presennol
  • Aelod, Bwrdd Cynghori Rhyngwladol, Rhwydwaith Ymchwil AVERT (Addressing Violent Extremism and Radicalisation to Terrorism), Prifysgol Deakin, Awstralia, 2018 – Presennol
  • Aelod, Bwrdd Cynghori, UNCTED-ICT4Peace’s Tech Against Terrorism, 2017 – Presennol
  • Aelod, Bwrdd Cynghori, prosiect EU H2020 MANDOLA (Monitoring and Detecting Online Hate Speech), 2016 – 2017
  • Aelod o’r Pwyllgor Llywio, Rhwydwaith Cynghori Canolfan Gwrthderfysgaeth Ewropeaidd (ECTC), EUROPOL, 2016 – Presennol
  • Aelod o’r Bwrdd Cynghori, Center for Research on Right-Wing Extremism, Hate Crime and Political Violence (C-REX), Prifysgol Oslo, 2016 – Presennol
  • Aelod, Rhwydwaith Ymwybyddiaeth o Radicaleiddio (RAN) Comisiwn yr UE, 2013 – Presennol Aelod, Grŵp Cynghori Allanol, Uned Cyfathrebu Gwleidyddol Newydd, Royal Holloway, Prifysgol Llundain, 2007 – Presennol