Mr Geraint Fry

Darlithydd yn y Gyfraith, Law

Cyfeiriad ebost

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Rhugl

Trosolwg

Ymunodd Geraint ag Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton Prifysgol Abertawe fel Darlithydd yn y Gyfraith ym mis Rhagfyr 2023.

Cwblhaodd Geraint ei astudiaethau am ei radd yn y Gyfraith a Hanes ym Mhrifysgol Abertawe cyn astudio'r Cwrs Ymarfer Cyfreithiol yn Abertawe hefyd.

Cyn ymuno â'r Brifysgol fel Darlithydd yn y Gyfraith, bu'n ymarfer y gyfraith am lawer o flynyddoedd ym meysydd ymgyfreitha sifil, ewyllysiau ac atwrneiaeth barhaus, cyfraith trosedd a chyfraith teulu. Yn ystod ei amser mewn ymarfer, penodwyd Geraint yn Bennaeth Adran ac yn Gyfarwyddwr Iau.

Yn bennaf, mae Geraint yn addysgu myfyrwyr ôl-raddedig sy'n chwilio am yrfa mewn ymarfer cyfreithiol.

Meysydd Arbenigedd

  • Ymgyfreitha Sifil
  • Ewyllysiau a Phrofiant
  • Cyfraith Droseddol
  • Cyfraith Teulu
  • Ymarfer Cyfreithiol Proffesiynol