Yr Athro Helen Quane

Athro, Law

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 295113

Cyfeiriad ebost

022
Llawr Gwaelod
Adeilad Richard Price
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Cwblhaodd Helen radd ôl-raddedig mewn Cyfraith Ryngwladol Gyhoeddus yn Ysgol Economeg Llundain cyn cwblhau PhD ar ddulliau seiliedig ar hawliau o ymdrin â gwrthdaro rhyng-gymunedol yng Ngholeg Prifysgol Llundain. Mae ei phrif ddiddordebau ymchwil yn ymwneud â materion natur normadol a strwythurol mewn cyfraith hawliau dynol ryngwladol, yn arbennig, materion diogelu lleiafrifoedd, hunanbenderfyniad a'r rhyngweithio rhwng cyfundrefnau hawliau dynol byd-eang, rhanbarthol a chenedlaethol wrth ffurfio a gweithredu normau hawliau dynol. Ar hyn o bryd, mae'n gweithio ar nifer o brosiectau ymchwil gan gynnwys un ar luosrywiaeth gyfreithiol a chyfraith hawliau dynol ryngwladol ac un arall ar hawliau dynol yng Nghymdeithas Gwledydd De-ddwyrain Asia (ASEAN). Mae ymchwil Helen wedi'i chyhoeddi mewn cyfnodolion blaenllaw fel yr Oxford Journal of Legal Studies, Harvard Human Rights Journal, yr International and Comparative Law Quarterly, Virginia Journal of International Law a'r British Yearbook of International Law.

Meysydd Arbenigedd

  • Hunanbenderfyniad
  • Hawliau lleiafrifoedd
  • Hawliau Pobloedd Brodorol
  • Lluosrywiaeth gyfreithiol