Dyfodol Cynaliadwy, Ynni a'r Amgylchedd

Un o'r heriau mwyaf rydym i gyd yn ei hwynebu yw'r argyfwng amgylcheddol, a'r angen i ddiogelu ein planed. Mae ein hymchwilwyr yn mynd i'r afael â heriau byd-eang nas gwelwyd eu tebyg o'r blaen drwy gydweithio â phartneriaid ar draws y byd i ddiogelu a chadw ein planed ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

  • Bydd y Ganolfan Arloesi a Gwybodaeth SPECIFIC a gweledigaeth y Ganolfan Adeiladau Actif yn dod â phartneriaid o'r diwydiant a'r Brifysgol ynghyd i ddatblygu ynni glân, cael gwared ar rwystrau a chyflymu'r broses o sicrhau bod y farchnad yn mabwysiadu dyluniadau adeiladu â phŵer solar newydd. Drwy weithio mewn partneriaeth â chwmnïau arloesol, bydd ymchwilwyr yn trawsnewid sectorau adeiladu ac ynni'r DU drwy greu adeiladau ar gyfer y dyfodol – 'Adeiladau Actif' a chreu cymunedau sy'n wydn o ran ynni, gan gyfrannu'n sylweddol at dargedau o ran cerbydau trydan a datgarboneiddio.
  • Mae ein Sefydliad Ymchwil Diogelwch Ynni (ESRI) yn cynnal ymchwil arloesol ar ynni carbon isel ac arloesedd. Mae ymchwilwyr wedi datblygu technoleg sydd â'r potensial i ddal hanner biliwn tunnell o garbon bob blwyddyn.
  • Mae ein harbenigwyr newid hinsawdd yn gweithio gyda thimau mewn gorsaf wyddoniaeth ryngwladol ar silff iâ yr Ynys Las, gan ddrilio'n ddwfn i'r rhew i ddeall hanes yr hinsawdd. Rydym yn parhau i fonitro effaith yr ymrannu a ddigwyddodd ar silff iâ Larsen C a thynged y mynydd iâ triliwn tunnell anferth hwn.
  • Rydym hefyd yn edrych ar sut mae newid yn yr hinsawdd yn dylanwadu ar symudiadau anifeiliaid a chynefinoedd. Wedi'i greu yma ym Mhrifysgol Abertawe, mae'r Tag Dyddiadur Dyddiol Clyfar yn helpu ymchwilwyr i ddylanwadu ar gynlluniau cadwraeth ar gyfer rhywogaethau ledled y byd.

 Mae ein hymchwil yn mynd i'r afael â heriau byd-eang, ac yn anelu at atal problemau yn y dyfodol.

 

Sut mae ein hymchwil yn newid y dyfodol

Cynaeafu Ynni

Cynyddu pŵer a gynhyrchwyd gan llyfrgelloedd ambient

Tyrbinau gwynt

Ein partneriaid

Y Cyfadrannau

Dysgwch fwy am y gwaith ymchwil sy'n cael ei wneud ym mhob un o'r cyfadrannau sy'n ymwneud â Dyfodol Cynaliadwy a'r Amgylchedd

Cysylltwch â ni am Ymchwil

Rydym yn gweithio gydag amrywiaeth o bobl a sefydliadau i gynnal ymchwil ar y cyd, i wireddu syniadau, i wella cynnyrch, ac i helpu i newid y byd.

01792 606060

Cysylltwch â ni i gael gwybod sut y gallwn ni weithio gyda chi.

Sut rydym yn deall ac yn mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd

people on the beach after a beach clean

Dysgwch fwy