Lled-ddargludyddion – Curo Calon Technolegau Net Sero

Rydym ni'n datblygu technolegau lled-ddargludol i gyflawni Sero Net

Lled-ddargludol

Yr Her

O gyfrifiadura i ffonau clyfar, o delegyfathrebu i ofal iechyd uwch, mae lled-ddargludyddion wedi galluogi ein byd modern. Nhw yw'r deunyddiau allweddol sy'n sail i bron pob un o'r technolegau y mae eu hangen er mwyn cyflawni Sero Net - gan greu ynni glân, rheoli llif pŵer, galluogi cyfathrebiadau uwch a deallusrwydd artiffisial, darparu trydaneiddio trafnidiaeth a llywio chwyldroadau ym maes y rhyngrwyd pethau, teclynnau electronig y gellir eu gwisgo a nwyddau trydanol.

Mae dwy haen i'r her dan sylw:

  1. creu deunyddiau a phlatfformau lled-ddargludol uwch er mwyn galluogi'r Chwyldro Sero Net;
  2. datblygu prosesau gweithgynhyrchu a chadwyni cyflenwi i ddatgarboneiddio'r diwydiant lled-ddargludyddion.

Y Dull

Trwy ei Sefydliad Ymchwil Rhyngddisgyblaethol newydd, y Ganolfan Deunyddiau Lled-ddargludol Integreiddiol (CISM), mae Prifysgol Abertawe'n helpu'r Diwydiant Lled-ddargludyddion yn ne Cymru i fynd i'r afael â'r heriau a'r cyfleoedd a gyflwynir gan y weledigaeth Sero Net. Mae CISM yn rhan o bartneriaeth flaenllaw yn y DU rhwng y sectorau diwydiannol, academaidd a llywodraethol o'r enw ‘Csconnected’. Cyfraniad Prifysgol Abertawe i'r ecosystem hon yw cyfleuster ymchwil ac arloesi newydd a phwrpasol gwerth £50M ar Gampws Arloesi'r Bae.

Mae cyfleuster CISM yn gyfleuster prosesu lled-ddargludyddion o’r radd flaenaf a ysbrydolwyd gan fyd diwydiant sy’n troi tafelli’n gylchrediadau integreiddiol sy’n gallu prosesu ystod fawr o ddeunyddiau a dyfeisiau lled-ddargludol cyfredol a dyfodolaidd. Bydd CISM yn darparu gwasanaethau allweddol megis prototeipio dyfeisiau cam cynnar, ond yn hanfodol, y gallu i bartneriaid ym myd diwydiant ac arloeswyr academaidd 'bennu graddfa' dyluniadau dyfeisiau a phlatfformau ar gyfer y cam creu llwythi fel prawf o'r egwyddor weithgynhyrchu.

Ar ben bod yn gyfleuster, mae CISM yn gymuned ar y cyd ac yn weledigaeth ar gyfer dyfodol arloesi ym maes lled-ddargludyddion ac mae tîm CISM yn cynnwys ymchwilwyr o ledled y Brifysgol, yn benodol y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg - Ffisegwyr, Peirianwyr o bob disgyblaeth, Cemegwyr a Gwyddonwyr Deunyddiau.

Un o nodweddion unigryw eraill CISM fydd cyflwyno cysyniadau 'integreiddiol' arloesol - sy'n cyfuno gwahanol ddeunyddiau lled-ddargludol er mwyn cyflawni natur ymarferol sydd heb ei gwireddu hyd yn hyn. Bydd rhaglen CISM yn canolbwyntio'n benodol ar electroneg pŵer ar gyfer trydaneiddio trafnidiaeth ac ynni glân (CISM fydd yr unig ganolfan yn y DU â llinell beilot ar gyfer creu cyfansoddion electroneg pŵer silicon carbid (SiC) uwch).

At hynny, er mwyn helpu'r sector i gyflawni uchelgeisiau Sero Net, bydd prosiect Arloesi mewn Lled-ddargludyddion ar gyfer Sero Net (SIN_0) yn treialu strategaethau arloesol ar gyfer lleihau allyriadau mewn prosesau creu a storio ynni, a rheoli adnoddau a llifau gwastraff. Yn ogystal ag arloesi'r ffordd wrth ddatgarboneiddio isadeiledd ymchwil uwch megis CISM, bydd SIN_0 hefyd yn dileu risgiau'r ymyriadau y bydd angen i'r diwydiant gweithgynhyrchu lled-ddargludyddion eu defnyddio i leihau ôl-troed carbon y sector hollbwysig hwn yn gyflym ac yn sylweddol.

Yr Effaith

Mae CISM yn darparu ystod o wasanaethau Ymchwil ac Arloesi sylfaenol hanfodol ochr yn ochr ag Ymchwil ac Arloesi pwrpasol h.y. deori ar gyfer busnesau bach a chanolig, dadansoddi a nodweddu uwch, modelu a dylunio dyfeisiau, datblygu prosesau, newid graddfa fesul llwyth a phrofi egwyddor.

Ynghyd â'i phartneriaid Csconnected, bydd CISM yn darparu'r genhedlaeth nesaf o dechnoleg lled-ddargludyddion uwch, i Sero Net ac i feysydd perthynol megis gofal iechyd ac optoelectroneg.

Bydd CISM yn arloesi atebion ar gyfer datgarboneiddio gweithgynhyrchu lled-ddargludyddion ac yn wir ar gyfer lleihau allyriadau isadeiledd ymchwil uwch.

Bydd CISM yn helpu i hyfforddi gwyddonwyr a pheirianwyr i sbarduno twf diwydiant lled-ddargludyddion de Cymru (a'r DU) - gan gynnig addysg a hyfforddiant o lefelau technegol i ôl-raddedig, yn ogystal â chyfleoedd prentisiaeth a DPP. Mae diwydiant lled-ddargludyddion de Cymru eisoes yn darparu oddeutu 2400 o swyddi cyflog uchel yn y rhanbarth, gan gyfrannu £277M y flwyddyn (GVA). Rhagwelir y bydd hyn yn cynyddu i 6500 o swyddi erbyn 2030, gyda buddsoddiad mewnol sylweddol sydd eisoes ar waith.

Nodau datblygu cynaliadwy y cenhedloedd unedig
Affordable and clean energy UNSDG
Dinasoedd a Chymunedau Cynaliadwy UNSDG
Gweithredu Hinsawdd UNSDG
Text reads themau ymchwil prifysgol abertawe