Bywyd Gwyllt

Rydym ni'n olrhain symudiadau ac ymddygiad anifeiliaid

Pengwiniaid Rokhopper y De

Y Her

Mae manylion symudiadau ac ymddygiad anifeiliaid, yn enwedig rhywogaethau swil megis y llewpart a'r siarc, wedi bod yn ddirgelwch i wyddonwyr ac i'r cyhoedd ers amser maith, gan fod dulliau confensiynol yn rhy gyffredinol, neu ddim yn gweithio ym mhob amgylchedd.

Mae astudiaethau o'r fath, fodd bynnag, yn hanfodol os ydym am ddeall anifeiliaid, yn enwedig yng nghyd-destun cadwraeth anifeiliaid.

Y Dull

Yr Athro Rory Wilson fu'n gyfrifol am y Tag 'Dyddiadur Dyddiol' Clyfar arloesol, sef dyfais olrhain anifeiliaid sy'n ein galluogi i gael cipolwg ar fywydau cudd rhai o'r creaduriaid mwyaf swil a phrin ar y ddaear.

Mae'r tag yn cofnodi hyd at 400 o bwyntiau data yr eiliad a gellir dangos y data mewn delweddau cymhellol, llawn gwybodaeth sy'n dangos symudiadau, ymddygiadau a faint o egni mae'r creadur yn ei ddefnyddio.

Yr Effaith

  • Mae'r tag yn gam mawr ymlaen i ymchwilwyr sydd bellach yn gallu mesur symudiadau anifeiliaid mewn manylder nas gwelwyd erioed o'r blaen, ac sy'n gobeithio rhagfynegi beth y byddant yn ei wneud nesaf.
  • Mae'r tagiau anifeiliaid nid yn unig yn manylu ar i ble mae'r anifeiliaid yn mynd, ond yr hyn maent yn ei wneud yno, a sut maent yn ymateb i newid, sef elfen ganolog er mwyn deall effeithiau newid yn yr hinsawdd.
  • Mae'r wybodaeth yn cael ei defnyddio i ragfynegi ffawd rhywogaethau ledled y byd, a allai fod yn hanfodol i helpu i lunio cynlluniau cadwraeth.
  • Yr Athro Wilson oedd y prif ymgynghorydd gwyddonol ar gyfer National Geographic, ar gyfres oedd yn ymwneud ag anifeiliaid yn mudo. Cyrhaeddodd y gyfres honno, Great Migrations, dros 330 miliwn o bobl mewn 166 o wledydd ac mewn 34 o ieithoedd. Roedd y gyfres yn astudiaeth o'r symudiadau byd-eang epig, ac yn aml y brwydrau bywyd a marwolaeth, mae creaduriaid mwyaf a lleiaf y byd yn eu hwynebu bob blwyddyn.
Text ReadsNodau datblygu cynaliadwy y cenhedloedd unedig
Life on Land UNSDG
Themâu ymchwil Prifysgol Abertawe

REF

Logo REF 2014