Mae’r Athro Swoleg, Rory Wilson, yn trafod sut mae ei ymchwil yn helpu i atal anifeiliaid rhag cael eu herwhela. Mae Rory’n esbonio sut mae’n tracio symudiadau anifeiliaid gan ddefnyddio tagiau electronig a sut caiff y data hwn ei ddefnyddio i amddiffyn anifeiliaid prin. Mae’n helpu pobl ac anifeiliaid i gyd-fyw yn llwyddiannus ac mae’n dadansoddi effaith yr amgylchedd dynol ar ymddygiad anifeiliaid. Mae Rory’n siarad am ei waith diddorol gyda phengwiniaid, albatrosiaid, eliffantod a chrwbanod.
Bywgraffiad
Mae’r swolegydd, yr Athro Rory Wilson, wedi cael ei enwi fel un o 50 Arwr Gwarchodaeth Gorau’r BBC. Yn ddiweddar, dyfarnwyd y wobr fawr ei pharch, Gwobr Ymchwil Humboldt, iddo. Mae ei waith ymchwil yn olrhain symudiadau anifeiliaid a sefydlodd Labordy Symudiadau Anifeiliaid Abertawe (SLAM). Mae ei waith ymchwil wedi mynd ag ef i bedwar ban byd ac mae wedi olrhain symudiadau mwy na 70 o rywogaethau. Mae Rory yn arbenigo mewn pengwiniaid, ac yn ddigon aml maent wedi tarfu arno.
Adolygiad: Amddiffyn rhywogaethau mewn perygl – Gwych a llawn gwybodaeth
Rwyf wedi wir mwynhau gwrando ar brofiadau Rory Wilson wrth weithio gydag anifeiliaid, yn enwedig pengwiniaid barfog talog Antartica! Roedd yn ysgogi’r meddwl ac yn llawn gwybodaeth.