Sam Blaxland
Sam Blaxland Hay festival

Sam Blaxland

Rwy’n Gymrawd Ôl-ddoethurol yn yr Adran Hanes ym Mhrifysgol Abertawe, lle rwyf newydd ysgrifennu llyfr i ddathlu canmlwyddiant y sefydliad. Llyfr ydyw am hanes cymdeithasol Prydain ers 1945, a’i diwylliant ieuenctid. Mae hefyd yn archwilio natur newidiol y perthnasoedd mae prifysgolion wedi’u cael yn y cymunedau maen nhw’n rhan ohonynt.  Caiff Swansea University Campus and Community in a Post-War World ei gyhoeddi dros yr haf eleni. Rwyf hefyd yn addysgu cyrsiau israddedig ac ôl-raddedig amrywiol ochr yn ochr ag ysgrifennu. Rwy’n ymdrin â phynciau gan gynnwys agweddau amrywiol ar Brydain ers 1945, a’i pherthnasoedd a’r hyn sydd bellach wedi dod yn Undeb Ewropeaidd; diwylliant gwleidyddol ar lawr gwlad;  hanes y Blaid Geidwadol; Hanes Cymru; a gwleidyddiaeth Prydain yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Rwyf hefyd yn addysgu dosbarthiadau ar theori hanes llafar ac ysgrifennu hanesion bywgraffiadol. 

Rhwng 2013-2016, ysgrifennais PhD ar y Blaid Geidwadol yng Nghymru ers yr Ail Ryfel Byd.  Mae hyn bron bob amser yn ennyn un o ychydig ymatebion, gan gynnwys sioc neu anghrediniaeth bod y fath beth wedi bodoli erioed! Mewn gwirionedd, y Torïaid fu ail blaid wleidyddol Cymru ers tro, ond mae hi’n aml yn cael ei hymyleiddio o’r naratif hanesyddol yng Nghymru. Ceisiodd fy nhraethawd ymchwil ail-gydbwyso hyn ychydig. Mae fy mhrosiect presennol, ac roedd y gwaith PhD hwn, yn cynnwys llawer iawn o hanes llafar a gwnes i gyfweld â mwy na 100 o bobl yn rhan o’r ddau brosiect. Mae’r gwaith ar y Ceidwadwyr yng Nghymru wedi arwain at ysgrifennu nifer o ddarnau amrywiol eraill ar gyfer cyfnodolion academaidd a phapurau newyddion, ac mae hefyd wedi sbarduno gyrfa ar yr ochr fel pyndit y cyfryngau a sylwebydd gwleidyddol. Ers 2017, rwyf wedi ymddangos yn rheolaidd ar raglenni teledu a radio amrywiol i drafod gwleidyddiaeth a materion cyfredol yn fwy eang, gan gynnwys BBC Breakfast, Radio 5 Live, BBC News at 6, ac ar nifer o raglenni BBC Radio Wales. Roeddwn i’n byndit yn y stiwdio dros nos yn ystod etholiad cyffredinol 2018, ac rwyf wedi ymddangos dwsin o weithiau ar Sunday Politics Wales. 

Cefais fy ngeni a’m magu yn Sir Benfro, gorllewin Cymru. Ers hynny, rwyf wedi astudio, gweithio neu fyw yng Nghaerdydd, Rhydychen, Llundain ac Abertawe. Y tu allan i’r gwaith, rwy’n rhedwr brwd, yn ddarllenydd hen ffasiwn o bapurau newyddion, yn hoffi coginio ac yfed gwin – ond ddim i gyd ar yr un pryd. 

Roedd yn fraint cael fy ngofyn i gyflwyno ‘Exploring Global Problem,’ oherwydd bod tuedd yn y byd academaidd i encilio i’ch swigen ymchwil eich hun, a gwneud llawer o waith ar agwedd gymharol fach (a diddorol) ar eich pwnc dewisol. Ni allai’r gyfres hon o bodlediadau fod wedi bod yn fwy gwahanol, ac rydw i wir yn teimlo fy mod i wedi ehangu fy meddwl trwy wrando ar gynifer o’m cydweithwyr yn siarad am bethau nad oedd gen i unrhyw syniad amdanynt o’r blaen.

Cymerais fy rôl o ddifrif a cheisiais baratoi ar gyfer pob pennod trwy ddarllen nodiadau briffio’r gwestai, edrych ar eu proffiliau ar-lein neu eu gwefannau personol, a gwneud ychydig o ddarllen cefndirol o amgylch eu pwnc. Doeddwn i ddim eisiau mynd i mewn i’r cyfweliadau heb wybod dim, ond roeddwn i hefyd yn ymwybodol fod manteision o beidio â bod yn arbenigwr;  roedd yn golygu os oeddwn i wedi drysu am rywbeth roedd y gwestai’n ei ddweud – efallai y byddai’r rhan fwyaf o’n gwrandawyr wedi drysu hefyd. Heb os, roedd gennyf restr o gwestiynau ar ddechrau pob pennod (nid oedd y gwesteion byth yn gweld y rhestr) ond roedd y mwyafrif o’r cwestiynau a ymddangosodd yn y rhaglenni yn rhai a ddaeth i’r meddwl wrth inni fynd ymlaen. Er bod gwerth peidio â bod yn arbenigwr ar bwnc, rwy’n credu roedd fy sgiliau cyflwyno yn well pan roeddwn i wedi darllen cryn dipyn fy hun – doedd hyn ddim yn hawdd pan roeddwn i hefyd yn ceisio ysgrifennu fy llyfr fy hun ar yr un pryd! 

Rwy’n gwrando ar Radio 4 yn gyson, ond nid oeddwn i’n ceisio dynwared John Humphrys o gwbl: Rwy’n aml yn gwthio yn ôl yn ysgafn yn erbyn y bobl rydym yn eu cyfweld, ond unig ddiben hyn yw rhoi persbectif amgen iddynt, oherwydd dyna ddylai fod pwrpas y byd academaidd. Nid oedd y dôn yn ddim byd ond cyfeillgar a sgyrsiol, ac, ymhell o fod yn ymosodol. Ceisiais eistedd yn ôl i raddau helaeth a gadael i'n gwesteion siarad.Wedi’r cyfan, eu podlediad nhw oedd hwn, nid fy un i. Weithiau roeddwn i’n anghytuno â’r hyn roedden nhw’n ei ddadlau, ond doeddwn i byth yn ceisio dangos hynny. 

Mae gwerth cynhyrchu'r podlediadau yn wirioneddol wych.Nid oes a wnelo hynny ddim â mi, dewiniaeth dechnegol Stephen Cleary (sef ein cynhyrchydd) oedd yn gyfrifol am hynny. Roedd yn gwneud i’r recordiadau swnio’n wych a hefyd yn gymorth mawr i mi yn fy rôl, gan fy helpu i fireinio fy nghwestiynau a phennu’r dôn ar gyfer y gyfres gyfan.  Rwy’n gobeithio bod ein gwaith wedi arwain at rywle y bydd pobl o bedwar ban byd yn ei ystyried yn berthnasol ac yn ddiddorol.