Pennod 11: Defnyddio algâu i lanhau mygdarthau gwastraff o ddiwydiannau

TROSOLWG O'R PENNOD

Ar hyn o bryd, mae cryn sylw’n cael ei roi i ddatrys cynhesu byd-eang ac i leihau effeithiau nwyon gwastraff ar yr amgylchedd.

Mae gwaith ymchwil Dr Emily Preedy’n canolbwyntio ar ddefnyddio carbon deuocsid sy’n wastraff i helpu i dyfu algâu i lanhau mygdarthau gwastraff o ddiwydiannau lleol. Mae Emily’n trafod ei gwaith, nodweddion defnyddiol niferus algâu a’r pethau bach y gallwn eu gwneud i leihau ein hôl-troed carbon.

AM EIN HARBENIGWYR

Enillodd Emily ei BSc (Anrh.) mewn Gwyddoniaeth Fforensig ym Mhrifysgol Morgannwg ac aeth ymlaen i gwblhau MSc mewn Nanofeddygaeth ym Mhrifysgol Abertawe, ac wedyn enillodd PhD mewn Bionanodechnoleg ym Mhrifysgol Caerdydd am ei hymchwil i effeithiau nanoronynnau ar oes dyfeisiau biofeddygol wedi'u mewnblannu.

Mae hi wedi cyfrannu at brosiectau sy'n ymwneud â chymwysiadau biofeddygol: datblygu ysgyfaint artiffisial yn Haemair Ltd; therapi laser polymerau sy'n adweithiol i olau i leihau heintiad bacteriol, yn ogystal â threialon clinigol dyfais nad yw'n ymwthiol iawn sy'n rheoli glwcos gwaed yn barhaus.

Ar hyn o bryd, mae Emily yn addasu ei sgiliau rhyngddisgyblaethol i leihau allyriadau carbon diwydiannol drwy ddefnyddio adnoddau naturiol, algâu a nwyau gwastraff o ffliwiau Tata Steel.

Mae Emily yn chwilfrydig am ddysgu a datblygu ei gallu 'Siân bob swydd' i estyn ffiniau yn y prosiectau mae hi'n gweithio arnynt; ei phrif angerdd yw helpu i ddatblygu technolegau a fydd yn cynorthwyo unigolion â diabetes math 1 i fyw bywyd normal.

Gwrandewch ar eich hoff blatfform

Mae sawl ffordd y gallwch chi wrando ar, neu hyd yn oed gwylio, ein cyfres o bodlediadau. Cliciwch ar un o’r dolenni isod, a fydd yn mynd â chi i’ch hoff blatfform. Ewch i’n tudalen help gyda phodlediadau i gael rhagor o wybodaeth a sut i wrando.