PENNOD 5: Mae mwy i fywyd nag arian: sut rydym ni’n mesur hapusrwydd?

TROSOLWG O'R PENNOD

O archfarchnadoedd i drenau cyflym iawn, gan gynnwys gwleidyddiaeth a thocynnau ar gyfer y loteri; mae economeg yn rhan annatod o bopeth rydym yn ei wneud. Mae'n fwy na mathemateg ac arian yn unig, mae'n ymwneud â sut mae popeth wedi'i gysylltu ac mae ymddygiad pobl yn elfen bwysig - mae ein hapusrwydd yn ein dewisiadau'n hollbwysig.

Yn y podlediad hwn, mae Dr Simon Rudkin yn esbonio'r broses benderfynu o ran prynu tocyn ar gyfer y loteri a sut mae craffu ar ddata mawr yn llywio'r broses llunio polisïau ym maes lles cymdeithasol.

AM EIN HARBENIGWYR

Mae ymchwil Simon yn parhau i wneud argraff ac mae'n cyfuno elfennau gorau economeg ag elfennau gorau disgyblaethau eraill megis cyfrifiadureg. Mae'n archwilio  sut y gall economegwyr egluro materion cymdeithasol a chyfrannu at lunio polisïau.

At hynny, mae Simon yn annog pawb i fynegi popeth ar raddfa: y syniad yw nad oes unrhyw beth yn bodoli ar y ddau begwn; yn hytrach, mae'n rhaid i ni ddadlau a gwerthuso ble rydym ni rhwng y ddau begwn. Mewn geiriau eraill, nid oes unrhyw beth mor syml â chwith/dde; cywir/anghywir; Ie/Nage.

Mae Dr Simon Rudkin o Adran Economeg Prifysgol Abertawe yn gredwr cryf bod Economeg yn gallu cyfrannu’n weithredol at gyfoeth o broblemau yn y gymdeithas. O ganlyniad, diffiniwyd ei brosiectau gan awydd i ddod â chysyniadau o’r ddisgyblaeth ynghyd i ddatblygu dealltwriaeth ehangach.

Dr Simon Rudkin

Dr Simon Rudkin

Gwrandewch ar eich hoff blatfform

Mae sawl ffordd y gallwch chi wrando ar, neu hyd yn oed gwylio, ein cyfres o bodlediadau. Cliciwch ar un o’r dolenni isod, a fydd yn mynd â chi i’ch hoff blatfform. Ewch i’n tudalen help gyda phodlediadau i gael rhagor o wybodaeth a sut i wrando.