TRINIAETH GANSER A CHAEL GWARED AR MALARIO: BETH YW RÔL MICROBAU?

TROSOLWG O'R PENNOD

Sut gall bacteria gael ei ddefnyddio i atal malaria neu feirws zika rhag ymledu? A allai'r ymchwil hon gael ei defnyddio i drin neu guro canser? Mae'r Athro Paul Dyson yn esbonio sut gallai ei ymchwil fod y datblygiad mawr nesaf wrth geisio atal clefydau i Dr Sam Blaxland yn y podledliad nesaf o Archwilio Problemau Byd-eang.

AM EIN HARBENIGWYR

Fel cyfarwyddwr rhaglen, roedd yr Athro Paul Dyson yn rhan allweddol o dwf a chryfder ein haddysgu a’n hymchwil ym meysydd Biocemeg a Geneteg. Diddordeb ymchwil cychwynnol Dyson oedd bacteria mewn pridd a darganfod gwrthfiotigau newydd ac effeithiol. Dros y 10 mlynedd diwethaf, mae pwyslais yr ymchwil hon wedi newid i drin a defnyddio bacteria at ddibenion trin, rheoli ac atal clefydau. I ddechrau, roedd yr ymchwil hon yn archwilio sut y gallai bacteria atal clefydau rhag ymledu drwy fectorau megis mosgitos, fel yn achos malaria. Ac, yn fuan iawn, datblygwyd yr ymchwil i archwilio i sut y gellid trin canser yn well mewn ffordd fwy penodol.

Gwrandewch ar eich hoff blatfform

Mae sawl ffordd y gallwch chi wrando ar, neu hyd yn oed gwylio, ein cyfres o bodlediadau. Cliciwch ar un o’r dolenni isod, a fydd yn mynd â chi i’ch hoff blatfform. Ewch i’n tudalen help gyda phodlediadau i gael rhagor o wybodaeth a sut i wrando.