Mae Dr Ian Mabbett yn siarad am SUNRISE, sef prosiect sy’n ceisio datblygu deunyddiau newydd i gynhyrchu, storio a defnyddio ynni sydd wedi’i gynnwys mewn adeiladau. Mae’r prosiect yn datblygu syniadau o’r labordy hyd at gynhyrchu, yn lleol yn ddelfrydol lle bo angen, ac yna’n codi adeiladau sy’n gweithredu fel hybiau ynni ledled India, lle mae 300 miliwn o bobl yn dioddef o ddiffyg pŵer 24/7.
Byddai SUNRISE fel arfer yn cael ei labelu fel prosiect ‘ynni’ sy’n taro SDG 7 ‘Ynni Fforddiadwy a Glân’. Yn y podlediad, mae Ian yn siarad am sut na allwch ymdrin â nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig ar wahân.