PENNOD 13: MAGU PLANT A'R CYFRYNGAU CYMDEITHASOL

TROSOLWG O'R PENNOD

Mae ymchwil yr Athro Lorenzo-Dus yn canolbwyntio ar 'ochr dywyll' y cyfryngau cymdeithasol, ac mae’n gweithio i drechu unigolion a grwpiau sy'n ceisio twyllo, camddefnyddio, ecsbloetio ac annog trais.  Enw'r rhaglen ymchwil y mae'r Athro Lorenzo-Dus yn ei harwain yw Developing Resilience against Online Grooming (DRaOG). Mae'n gweithio gyda thîm o ieithyddion, troseddegwyr, cyfrifiadurwyr ac mewn partneriaeth ag asiantaethau gorfodi'r gyfraith ac elusennau'n rhyngwladol.  Fel rhan o'r rhaglen DRaOG, maent yn ceisio nodi'r tactegau twylldorus y mae oedolion yn eu defnyddio wrth geisio meithrin perthnasoedd rhywiol â phlant ar-lein, ac yn bwysicaf oll, ddefnyddio canlyniadau'r ymchwil hon i ddatblygu gwytnwch unigol a chymdeithasol yn eu herbyn

AM EIN HARBENIGWYR

Mae Nuria yn Athro mewn iaith a chyfathrebu ac yn arweinydd yr holl faterion Ymchwil Ôl-raddedig ym Mhrifysgol Abertawe. Astudiodd am radd cydanrhydedd mewn Saesneg ac Almaeneg ym Mhrifysgol Valencia yn Sbaen ac yna aeth ymlaen i astudiaethau ôl-raddedig ym Mhrifysgol Caerdydd, gan ganolbwyntio ar sut mae pobl yn creu eu hunaniaethau yn y cyfryngau ar gyfer ei Gradd Meistr a’i PhD. Yn wreiddiol, archwiliodd y cyfryngau darlledu ond bellach mae'n canolbwyntio ar 'ochr dywyll' y cyfryngau cymdeithasol, gan weithio i drechu unigolion a grwpiau sy'n ceisio twyllo, camddefnyddio, ecsbloetio ac annog trais. Yn benodol, mae'n archwilio'r tactegau cyfathrebu maent yn eu defnyddio: y geiriau maent yn eu defnyddio, y lluniau maent yn eu postio etc. 

Gwrandewch ar eich hoff blatfform

Mae sawl ffordd y gallwch chi wrando ar, neu hyd yn oed gwylio, ein cyfres o bodlediadau. Cliciwch ar un o’r dolenni isod, a fydd yn mynd â chi i’ch hoff blatfform. Ewch i’n tudalen help gyda phodlediadau i gael rhagor o wybodaeth a sut i wrando.