PENNOD 9: A YDYCH CHI'N MEDDWL EICH BOD YN GWYBOD BETH YW MANTEISION ECONOMI'R SWYD

TROSOLWG O'R PENNOD

Ydy gwaith ecsbloetiol yn dechrau cael ei ystyried fel y drefn arferol newydd? A oes rhaid i'r byd gwaith fod fel hyn? Yn y podlediad hwn, bydd yr Athro Geraint Harvey o'r Ysgol Reolaeth yn trafod ffyrdd newydd o weithio, sut maent yn edrych a sut maent yn effeithio ar y gweithiwr. A ydych chi'n meddwl eich bod yn gwybod beth yw manteision economi'r swyddi dros dro? Meddyliwch eto.

Cyfarwyddwr y Ganolfan ar gyfer Pobl a Sefydliadau yn yr Ysgol Reolaeth yw'r Athro Geraint Harvey. Mae ei ddiddordebau ymchwil yn cynnwys newidiadau i'r berthynas gyflogaeth ac, yn benodol, y ffordd y mae contractau masnachol yn disodli contractau cyflogaeth. Mewn llawer o achosion, mae pobl yn gweithredu fel y byddai gweithiwr yn ei wneud, ond fe'u diffinnir fel gweithwyr hunangyflogedig sy'n golygu bod ganddynt lai o ddiogelwch ac nid ydynt yn derbyn buddion megis tâl gwyliau, tâl salwch na chyfraniadau pensiwn gan y sefydliad. Diffinnir y bobl hyn fel y gweithwyr hunangyflogedig ffug (neu synthetig). Rydym wedi gweld cynnydd yn y gwaith a adwaenir bellach fel economi'r swyddi dros dro, lle nad oes swyddi tymor hir diogel ond ceir cyfleoedd arwahanol i weithwyr ennill arian am waith.

Grŵp bach o ymchwilwyr yn y gwyddorau cymdeithasol yw'r Ganolfan Pobl a Sefydliadau, sy'n mynd i'r afael â materion sy'n gysylltiedig ag Ymddygiad Sefydliadol a Rheoli Adnoddau Dynol.

AM EIN HARBENIGWYR

Yr Athro Geraint Harvey yw Cadeirydd Pobl a Sefydliadau yr Adran Fusnes yn Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe.  Mae ganddo gefndir proffesiynol mewn rheoli gweithgynhyrchu a’r diwydiant recriwtio. Hefyd mae’n athro brwd ac mae ei ymrwymiad i addysg wedi’i gydnabod gan sawl enwebiad am wobrau dysgu ac addysgu ac mae wedi derbyn sawl gwobr am ansawdd ymchwil.

 

Gwrandewch ar eich hoff blatfform

Mae sawl ffordd y gallwch chi wrando ar, neu hyd yn oed gwylio, ein cyfres o bodlediadau. Cliciwch ar un o’r dolenni isod, a fydd yn mynd â chi i’ch hoff blatfform. Ewch i’n tudalen help gyda phodlediadau i gael rhagor o wybodaeth a sut i wrando.