Grŵp bach o ymchwilwyr sy’n ymwneud â materion cysylltiedig â gwaith, Rheoli Adnoddau Dynol, Datblygu Adnoddau Dynol ac Ymddygiad Sefydliadol yw’r Ganolfan Pobl a Sefydliadau. Mae gan yr aelodau arbenigedd eang o Reoli Adnoddau Dynol yn rhyngwladol a chysylltiadau cyflogaeth i ymddygiad sefydliadol, lles ac effeithiau polisïau sefydliadol ar ymarfer. Mae gan ein haelodau gefndiroedd proffesiynol ac academaidd amrywiol. Mae’r dulliau ymchwil yn amrywio o arbrofion ac ymchwil feintiol sy’n archwilio beth sy’n digwydd mewn gweithleoedd i ddadansoddiadau ansoddol sy’n archwilio pam mae pobl yn ymddwyn mewn ffordd benodol. Mae’r holl aelodau’n rhannu diddordeb mewn sefydliadau, gwaith a chymdeithas ehangach.
Mae ein cryfderau ymchwil yn canolbwyntio ar ddadansoddi’n feirniadol yr hyn sy’n cael ei gyflawni gan sefydliadau, sut mae gwleidyddiaeth rhywedd, oedran, dosbarth neu ethnigrwydd yn cael ei hatgynhyrchu mewn cysylltiadau yn y gweithle. Rydym yn ymddiddori yn yr hyn sy’n digwydd mewn sefydliadau, sut mae polisi’n gweithredu’n ymarferol, beth mae’n ei olygu i fod mewn galwedigaethau penodol, rhwystrau ac atalyddion. Mae’r ymagwedd hon yn ein gwneud yn unigryw oherwydd ystyrir bod ein hymchwil yn rhagorol yn rhyngwladol. Mae ein hymchwil wedi cael ei chyhoeddi mewn cyfnodolion academaidd mawr eu bri gan gynnwys Gender, Work & Organisation, Human Relations, Human Resource Management Journal, Journal of Occupational and Organizational Psychology, International Journal of Human Resource Management. I’r perwyl hwnnw, rydym yn awyddus i ddatblygu cysylltiadau â diwydiant a pharhau â’n gwaith rhagorol wrth oruchwylio arweinwyr ymchwil y dyfodol trwy ein goruchwyliaeth ddoethurol.
Ymhlith y Themâu Ymchwil Presennol mae:
- Globaleiddio a Rheoli Adnoddau Dynol yn Rhyngwladol: yr heriau sy’n wynebu cwmnïau rhyngwladol wrth ddatblygu polisïau ac arferion adnoddau dynol a’u gweithredu’n llwyddiannus, yn ogystal â sut mae amgylcheddau gwleidyddol ac economaidd byd-eang yn ffurfio arferion lleol.
- Rheoli Perfformiad a Pherfformioldeb: ymchwilio i ffactorau ar lefel unigol, grŵp a sefydliad, a’r ffyrdd y mae metrigau’n newid ymddygiad.
- Rheoli Teuluoedd, Gwaith a thrawsnewidiadau: archwilio amgylchiadau sy’n newid a rolau sy’n newid ar bob cam o fywyd.