Addysg weithredol yn yr Ysgol Reolaeth

Yn yr Ysgol Reolaeth, rydym yn darparu cyfleoedd dysgu i'ch helpu i wahaniaethu eich hun a'ch sefydliad. Mae dod yn rhan o'n Hysgol yn mynd y tu hwnt i 'Reoli'. Byddwn yn gweithio gyda chi i ddeall eich diddordebau unigol a'ch anghenion proffesiynol.

Yn yr amgylchedd gwaith newidiol presennol, y mae gofyn i weithredu’n ddilyniadol, yn onest a gyda chyfrifoldeb cymdeithasol. Mae ein cyrsiau arbenigol o ansawdd uchel wedi'u cynllunio i alluogi arweinwyr i adeiladu sefydliadau ac economïau cynaliadwy, llwyddiannus.

Mae ein rhaglenni yn grymuso, ysbrydoli ac ysgogi ein dysgwyr i fod y newid y maent am ei weld yn eu sefydliadau. Mae ein cyrsiau yn darparu cyfleoedd i gydweithredu traws-sector a thraws-gyfandir wrth i arweinwyr, siaradwyr ac academyddion byd-eang ddod at ei gilydd i archwilio heriau busnes amrywiol.

Gan weithio gydag arbenigwyr diwydiant, mae ein hacademyddion blaenllaw wedi cynllunio rhaglenni Addysg Weithredol hyblyg sy'n arwain at newid cadarnhaol.  Gyda phob rhaglen, byddwn yn eich cyflwyno i ystod eang o syniadau o siaradwyr gwadd rhyngwladol; i lywio eich meddwl ac i'ch galluogi i fynd i'r afael â heriau eich sefydliad eich hun.

Mae gennych yr opsiwn i gymryd rhan mewn cyrsiau byr neu raglenni dysgu hirach, mwy cynhwysfawr. Gwyddom fod amser yn adnodd cyfyngedig, felly dewiswch yn seiliedig ar eich anghenion.

Os oes gennych uchelgais i drawsnewid eich sefydliad, dyma’r rhaglenni i chi.

Tanysgrifio

Subscribe / Tanysgrifio

* indicates required

Please select all the ways you would like to hear from SOM Executive Education:

You can unsubscribe at any time by clicking the link in the footer of our emails. For information about our privacy practices, please visit our website.

We use Mailchimp as our marketing platform. By clicking below to subscribe, you acknowledge that your information will be transferred to Mailchimp for processing. Learn more about Mailchimp's privacy practices here.

RHAGLENNI ADDYSG WEITHREDOL BYR

CYFLEOEDD PELLACH I ASTUDIO AR LEFEL GRADD

TU HWNT I ADDYSG ...

Eisiau Gweithio Gyda Ni?

Drwy weithio ochr yn ochr â ni, gallwn roi mynediad i chi at feddyliau disgleiriaf a mwyaf uchelgeisiol y dyfodol a gallwn hefyd helpu i hyfforddi a datblygu eich gweithlu i fod yn gwbl barod ar gyfer yr heriau y bydd eich sefydliad yn dod ar eu traws.

Dysgwch fwy ynghylch sut y gallwn gydweithio.