Cefnogi Athena Swan

Dyfarnwyd Gwobr Efydd Siarter Athena SWAN i Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe am ei hymrwymiad i hyrwyddo cydraddoldeb rhwng y rhywiau yn y rownd adolygu ddiweddaraf gan Advance HE.

Sefydlodd yr Uned Her Cydraddoldeb Siarter Athena SWAN yn 2005 er mwyn annog a chydnabod ymrwymiad i ddatblygu gyrfaoedd menywod mewn meysydd STEMM mewn addysg uwch ac ymchwil.

Ym mis Mai 2015, ehangwyd y siarter i gydnabod gwaith a wneir yn y celfyddydau, y dyniaethau, y gwyddorau cymdeithasol, busnes a'r gyfraith, mewn rolau proffesiynol a chefnogi, ac ar gyfer staff a myfyrwyr traws. Mae'r Siarter bellach yn cydnabod gwaith a wneir i fynd i'r afael â chydraddoldeb rhwng y rhywiau yn fwy eang, nid y rhwystrau i gynnydd sy'n effeithio ar fenywod yn unig.

Cliciwch yma i ddarllen rhagor am Siarter Athena SWAN ym Mhrifysgol Abertawe.

Athena Swan bronze logo

SWIB (Cymdeithas Merched mewn Busnes Abertawe)

Mae’r Gymdeithas Merched mewn Busnes Abertawe (SWIB) yn gymdeithas sy’n cael ei rhedeg gan fyfyrwyr yn yr Ysgol Reolaeth, ac maent yn ceisio “Hyrwyddo hyder a chymell unigolion cryf drwy wasanaethu fel llwyfan i uno merched sydd ag uchelgeisiau tebyg ym maes busnes.”

Am ragor o wybodaeth, ewch i gael golwg ar eu tudalen Facebook.