Trosolwg o'r Cwrs

Mae’r cwrs Mentergarwch a Chreadigrwydd: Entrepreneuriaeth ar Waith yn ficro-gymhwyster a gynhelir dros 5 wythnos; cyfeirir ato hefyd fel Street2Boardroom. Fe'i lluniwyd ar gyfer y rhai hynny sydd wedi wynebu rhwystrau yn y gorffennol neu heb gael cymwysterau addysg uwch neu addysg bellach. Sefydlwyd Street2Boardroom yn 2016 gan ei sylfaenydd, Clayton Planter, gan ei fod yn teimlo bod y system bresennol yn eithrio grwpiau demograffig penodol. Felly, yn rhwystro unigolion rhag gwireddu eu potensial. Rydym yn gyffrous iawn cael bod mewn partneriaeth â Street2Boardroom a rhannu ein harbenigedd busnes â'r fenter gynhwysol a gwerthfawr hon.

Mae'r cwrs yn cynnwys amrywiaeth o bynciau busnes, gan gynnwys cyllid, marchnata, busnes y stryd yn erbyn busnes corfforaethol, agweddau cyfreithiol, jargon a llawer mwy. Yn ogystal â hyn, byddwch hefyd yn elwa o sgyrsiau llawn ysbrydoliaeth a sesiynau gweithdai rhyngweithiol.

Wythnos ar ôl wythnos, byddwch yn datblygu eich syniadau eich hun, yn gwella eich gwybodaeth fusnes, ac yn dysgu am eich cryfderau a'ch gwendidau drwy weithredu fel entrepreneur.  I wneud hyn, rhaid i chi weithio'n annibynnol i ddylunio eich prosiect entrepreneuraidd eich hun, a gweithio i'w gyflawni, gan greu gwerth i grŵp neu gymuned o'ch dewis.

Canlyniadau'r Cwrs:

Ar ôl cwblhau'r cwrs, byddwch yn:

  • Datblygu Sgiliau Entrepreneuraidd: Ennill y meddylfryd a'r gallu sy'n hollbwysig ar gyfer lansio eich busnes eich hun.
  • Gwella eich Cyflogadwyedd: Ennill dealltwriaeth a sgiliau a fydd yn eich arwain i'r byd proffesiynol.
  • Eich Prosiect: Gweithredu fel entrepreneur drwy ddylunio a chyflwyno prosiect sy'n cyfrannu'n gadarnhaol at y gymuned neu'r grŵp rydych wedi'i ddewis.
  • Cyflawni Micro-gymhwyster: Ennill micro-gymhwyster gwerthfawr, sy'n nodi cyflawniad llwyddiannus y rhaglen unigryw hon.

Cofrestrwch isod i dderbyn y ffurflen gais ar gyfer Mentergarwch a Chreadigrwydd: Street2Boardroom

Diogelu data

Drwy gyflwyno eich ymholiad, rydych yn cydsynio i Brifysgol Abertawe ddal eich data. Caiff eich data ei ddefnyddio at ddibenion ymdrin â'ch ymholiad ac anfon gwybodaeth berthnasol atoch am Brifysgol Abertawe. Ni fydd Prifysgol Abertawe'n trosglwyddo'ch manylion i unrhyw drydydd parti. Os ydych chi'n dymuno tynnu eich hun oddi ar gronfa ddata Prifysgol Abertawe, cysylltwch â'r Swyddfa Dderbyn, Prifysgol Abertawe, Abertawe, SA2 8PP, som-execed@abertawe.ac.uk