Astudiwch radd Meistr mewn Gweinyddu Busnes (MBA) yn yr Ysgol Reolaeth

Ydych chi eisiau rhoi hwb i’ch gyrfa?

Mae Gradd Meistr mewn Gweinyddu Busnes (MBA) yr Ysgol Reolaeth, ar gyfer y rhai hynny sydd am gael effaith ar gymdeithas a mynd i’r afael â’r bwlch rhwng ymarfer a damcaniaeth sy’n gallu bodoli ym myd busnes.

Byddwch yn defnyddio’r wybodaeth sydd eisoes gennych mewn cyd-destun byd-eang i oresgyn sefyllfaoedd heriol a dysgu sut i lywio arloesedd a newidiadau wrth gymhwyso damcaniaethau a fframweithiau perthnasol.

Mae gan y rhaglen hon ffocws cryf ar greu gwerth cynaliadwy, yn enwedig ym meysydd Rheoli Technoleg, Rheoli Gweithrediadau a Marchnata.

Lawrlwythwch ein Llyfryn MBA.

Doethur mewn Gweinyddu Busnes, DBA

Os oes gennych ddiddordeb mewn datblygu a chyfoethogi ymarfer yn eich maes penodol, archwiliwch ein rhaglen rhan-amser, dan arweiniad ymchwil, Doethur mewn Gweinyddu Busnes, DBA.

Cyrsiau Rheoli Arall

Mae ein rhaglen MBA yn gwrs urddasol a anelir at fyfyrwyr sy’n meddu ar o leiaf dair blynedd o brofiad gwaith perthnasol. Os nad ydych chi’n meddu ar dair blynedd o brofiad gwaith perthnasol, peidiwch â phoeni, gallwch chi gyflwyno cais am gyrsiau cyffrous eraill: 

Ar gyfer myfyrwyr o unrhyw gefndir israddedig: MSc Rheoli Adnoddau DynolMSc Rheoli (archwiliwch bob un o’r 10 llwybr)

Ar gyfer myfyrwyr â chefndir ym maes BusnesMSc Rheolaeth Twristiaeth RyngwladolMSc Marchnata Strategol

Ysgoloriaethau

Mae ysgoloriaeth rannol yn seiliedig ar deilyngdod gwerth £4,000 ar gael ar gyfer y dyfarniad hwn. Nid yw ffurflen gais yn angenrheidiol. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu hysbysu'n fuan ar ôl y dyddiad cau. E-bostiwch fhss-scholarships@swansea.ac.uk gydag unrhyw ymholiadau

Dewch i Gyfarfod ein Staff Proffesiynol ac Academaidd

cyfarfod grŵp

Pam bod Abertawe yn iawn i chi

AACSB logo