Croeso i Reoli Adnoddau Dynol

Ydych chi eisiau dod yn Rheolwr Adnoddau Dynol llwyddiannus y dyfodol, gan osod lles pobl eraill wrth wraidd beth rydych chi'n ei wneud?

Bydd ein rhaglenni Rheoli Adnoddau Dynol arbenigol, sy’n rhoi datblygiad a lles gweithwyr yn ganolog iddynt, yn rhoi mantais gystadleuol i chi wrth fentro i fyd rheoli pobl.

Ein nod yw rhoi profiad addysgol rhagorol i chi, gyda thimau ymroddedig sy'n darparu cymorth cyflogadwyedd, personol ac academaidd drwy gydol eich gradd.