Croeso i Reoli Busnes

Os ydych chi eisiau bod yn arweinydd busnes byd-eang nesaf y byd, mae ein hamrywiaeth o raddau yn addas ichi.

P'un a ydych yn astudio'r radd rheoli busnes gyffredinol neu un o'n llwybrau arbenigol, mae ein holl gyrsiau wedi'u strwythuro i ganiatáu hyblygrwydd fel y gallwch deilwra eich modiwlau, ac yn y pen draw, eich gradd, i gyd-fynd â'ch dyheadau gyrfa sy'n datblygu.

Gyda thimoedd ymroddedig sy'n darparu cymorth cyflogadwyedd, academaidd a phersonol trwy gydol eich gradd, a chysylltiadau agos â chyrff proffesiynol blaengar a sefydliadau byd-eang llwyddiannus, ein nod yw rhoi profiad addysgol ardderchog ichi.