Croeso i gymuned ymchwil yr ysgol reolaeth

Rydym ymysg y 30 Ysgol Fusnes Gorau yn y DU ar gyfer Rhagoriaeth Ymchwil (REF 2014).

Ein nod yw creu gwaith ymchwil cydweithredol, arloesol ac amlddisgyblaethol drwy weithio gyda rhai o'r ymchwilwyr gorau a mwyaf disglair o bob cwr o'r byd. Rydym yn datblygu cysylltiadau gydol oes â'n cymuned ymchwil, cefnogwyr diwydiannol a myfyrwyr drwy ymgorffori gweithio mewn partneriaeth a chydberthnasau â chyn-fyfyrwyr.

Rydym wedi ymrwymo i gyflawni a dosbarthu gwaith ymchwil o'r radd flaenaf er mwyn meithrin gwybodaeth, sgiliau, dealltwriaeth ac effaith.
Dysgwch fwy am yr hyn a wnawn, sut yr awn ati, a sut y gallwch gydweithio â ni.