Croeso i Dwristiaeth

Gan ei fod yn un o'r diwydiannau mwyaf sy'n ehangu fwyfwy yn y byd, mae agweddau busnes a dynol twristiaeth bellach yn feysydd astudio sefydledig.

Ymchwiliwch i ddyfnderoedd damcaniaeth a chymwysiadau ymarferol a datblygu sgiliau a fydd yn eich paratoi ar gyfer amrywiaeth eang o gyfleoedd gyrfa yn sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddoli twristiaeth a diwydiannau cysylltiedig, yn y DU ac yn rhyngwladol.

Mae cysylltiadau cryf yr adran â diwydiant lleol a rhyngwladol yn rhoi cyfle i fyfyrwyr gael profiad o gyrchfannau twristaidd o bob maint yn y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol ym mhedwar ban byd. A chyda thimoedd ymroddedig sy'n darparu cymorth cyflogadwyedd, academaidd a phersonol trwy gydol eich gradd, ein nod yw rhoi profiad addysgol ardderchog ichi.