Pwy ydyn ni?

Mae Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe yn un o ddarparwyr gorau’r DU ar gyfer addysg Rheolaeth a Chyfrifeg a Chyllid.

Mae gan yr Ysgol brofiad rhagorol o addysgu rhai o raddedigion mwyaf llwyddiannus y DU. Mae'r profiad hwnnw, ynghyd â'i staff egnïol a blaengar, ei chyfleusterau o'r radd flaenaf a'i chysylltiadau agos â diwydiant yn golygu ei bod yn lle hollol unigryw i astudio ynddo.

Gweledigaeth yr Ysgol yw gwneud gwahaniaeth i gymdeithas a'r economi yn lleol ac yn fyd-eang drwy ragoriaeth mewn addysgu a arweinir gan ymchwil. O ganlyniad i'r weledigaeth hon, mae'r Ysgol yn yr 17eg safle yn y DU am effaith ymchwil* ac yn y 26ain safle am ragoriaeth ymchwil.

Amgylchedd
Lleolir yr Ysgol ar gampws trawiadol y Bae, sy’n dafliad carreg yn unig o'r traeth cyfagos a hanner milltir o goridor yr M4; mae'r Ysgol Rheolaeth yn gartref i dros 150 o staff a thros 2000 o fyfyrwyr. Mae ei chyfleusterau o safon fyd-eang, gan gynnwys atriwm cymunedol ysblennydd, ystafelloedd addysgu, ystafelloedd cyfarfod a labordai cyfrifiaduron, yn cynnig amgylchedd dysgu rhagorol i'w myfyrwyr.

Uchelgais
Ein nod yw darparu addysg o safon fyd-eang drwy gydweithio, arloesi a meddylfryd blaengar, ac rydym yn ymfalchïo yn y profiad ardderchog sy'n cael ei gynnig i fyfyrwyr yma yn yr Ysgol Reolaeth. Drwy ein gweithgareddau mentergarwch ac arloesi, mae ein cysylltiadau busnes yn gryf; yn ogystal â chyfoethogi'r profiad dysgu i'n myfyrwyr, maent hefyd yn cael effaith ar yr economi leol a byd-eang, yn benodol ym maes Iechyd a Lles, y Gymdeithas Ddigidol ac Economïau Cynaliadwy.

Cyfle
Uchelgais yr Ysgol Reolaeth yw cael ei hadnabod yn fyd-eang fel canolfan rhagoriaeth addysgol. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth ag adrannau eraill Prifysgol Abertawe a sefydliadau allanol i greu rhaglenni sy'n adlewyrchu'r sgiliau mae gweithle newidiol yn gofyn amdanynt; mae hyn yn ein galluogi i hyfforddi graddedigion sy'n barod am y gweithle.

*Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014: Sefydliadau wedi'u graddio fesul pwnc

Cynllun Athena Swan
Dyfarnwyd Gwobr Efydd Siarter Athena SWAN i Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe am ei hymrwymiad i hyrwyddo cydraddoldeb rhwng y rhywiau yn y rownd adolygu ddiweddaraf gan Advance HE. Gallwch ddarllen rhagor am ein hymrwymiad yma.