athena swan logo

Dyfarnwyd Gwobr Efydd Siarter Athena SWAN i Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe am ei hymrwymiad i hyrwyddo cydraddoldeb rhwng y rhywiau yn y rownd adolygu ddiweddaraf gan Advance HE.

Mae'r Wobr yn cydnabod ymrwymiad yr Ysgol Reolaeth i ddatblygu cydraddoldeb rhwng y rhywiau o ran cynrychiolaeth, cynnydd a llwyddiant i bawb.

Rhaglen genedlaethol hynod lwyddiannus yw Siarter Athena SWAN Advance HE, sydd wedi tyfu o fod â 10 aelod o blith prifysgolion pan gafodd ei sefydlu yn 2005, i 160 o aelodau o blith prifysgolion a sefydliadau ymchwil y DU heddiw. I ddechrau, roedd y Siarter yn canolbwyntio ar wyddoniaeth, technoleg, peirianneg, meddygaeth a mathemateg (STEM) yn y byd academaidd yn unig, ond fe'i hehangwyd ym mis Ebrill 2015 i gynnwys pob maes pwnc, ar gyfer staff mewn rolau academaidd ac yn y gwasanaethau proffesiynol a staff a myfyrwyr trawsrywiol.

Dywedodd yr Athro Katrina Pritchard, Dirprwy Ddeon ac arweinydd academaidd yr Ysgol Reolaeth a chyflwyno ar gyfer gwobrau: "Des i'n rhan o'n gweithgarwch Athena SWAN yn syth ar ôl ymuno â Phrifysgol Abertawe. Rwy'n angerddol am sicrhau ein bod ni'n datblygu'r hyn rydym ni'n ei wneud yn dda, ac rwyf am sicrhau nad ydym yn ofni amlygu a mynd i'r afael â'r pethau sydd angen eu newid. Mae ein gwaith ar y cais wedi rhoi'r cyfle i ni drafod penderfyniadau pwysig am amrywiaeth a chynwysoldeb yn yr Ysgol.

"Daeth dros 60 o staff a myfyrwyr ynghyd yn ein digwyddiad diweddar ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Menywod i drafod amrywiaeth, gan bwysleisio’r ymroddiad uchel ar draws yr Ysgol."

Mae enghreifftiau pellach o welliannau diweddar o ran cydraddoldeb rhwng y rhywiau yn yr Ysgol Reolaeth yn cynnwys mwy o fenywod wrth y llyw yn y cymdeithasau i fyfyrwyr, a chyfres Menywod sy'n Ysbrydoli y Brifysgol, sy'n dathlu menywod presennol a gorffennol Prifysgol Abertawe yn cynnwys gwaith, astudiaethau ac ymchwil nifer o'n staff a’n myfyrwyr.

Yn 2017, dyfarnwyd Gwobr Cydraddoldeb Arian Sefydliadol Athena SWAN i Brifysgol Abertawe am ei chofnod sylweddol o gyflawni, ei gweithgareddau a'i heffaith o ran cydraddoldeb rhwng y rhywiau. Mae pob Coleg arall yn cymryd rhan yn Athena SWAN ac maen nhw wedi cyflawni gwobrau ar lefelau amrywiol neu'n gweithio tuag atynt.

Meddai'r Athro Hilary Lappin-Scott, Uwch Ddirprwy Is-ganghellor a Hyrwyddwr Athena SWAN: "Dyma newyddion gwych! Mae'r Ysgol Reolaeth wedi gweithio'n ddiflino i wella amrywiaeth a chynwysoldeb ar bob lefel, ac rwy'n gwybod ei bod hi'n ymrwymedig i barhau i ddatblygu.

"Mae'r wobr hon hefyd yn dangos uchelgais barhaus Prifysgol Abertawe i fod yn amgylchedd cynhwysol a chefnogol sy'n sicrhau tegwch mewn meysydd megis cyflog rhwng y rhywiau ac amrywiaeth mewn penodiadau uwch. Mae'n ategu ein hymrwymiad i wella amrywiaeth ac yn galluogi staff a myfyrwyr i gyflawni eu potensial. “

Dyfernir y wobr i'r Ysgol Reolaeth mewn seremoni a fydd yn cael ei chynnal ym Mhrifysgol Efrog ar 24 Mehefin 2019.

Gellir cael rhagor o wybodaeth am Athena SWAN yn yr Ysgol Reolaeth yma.

Rhannu'r stori