Trosolwg o'r Cwrs

Cyflwynir ein cyrsiau gan gyfadran ryngwladol o arweinwyr sydd â gwybodaeth arbenigol o iechyd a gofal cymdeithasol – sy’n ddarparu mewnwelediad a phrofiad amrywiol; i helpu i herio a llunio eich meddwl a'ch cefnogi i ddiffinio'r dull cywir ar gyfer eich sefydliad a'ch system.

Fel arweinydd neu reolwr, bydd y cyrsiau'n sicrhau eich bod yn dychwelyd i'ch sefydliad sydd â'r adnoddau i ddilysu neu adeiladu strategaeth a ddiffinnir yn ôl gwerth a chanlyniadau.

Bydd pynciau fel 'Gweithredu a Defnyddio Mesur Gwerth', 'Creu Diwylliant o Werth' a 'Deall Beth i'w Fesur' yn cael eu harchwilio. Byddwch yn gweithio gyda'n hunedwyr a'n cyfadran ryngwladol i archwilio astudiaethau achos a thrafod heriau amserol mewn ystafelloedd dosbarth a thrwy gyfleoedd rhwydweithio. Byddwch yn gweithio fel rhan o setiau dysgu bach, a fydd, gobeithio, yn parhau ymhell y tu hwnt i'r cwrs.

Deilliannau’r cwrs:

  • Eich helpu i nodi cyfleoedd cydweithio gyda chyfoedion a chydweithwyr o systemau iechyd a gofal cymdeithasol a'r sector gwyddor bywyd
  • Darparu mewnwelediadau a phrofiad i helpu i herio eich meddwl
  • Archwilio sut i symud o ddull sy'n canolbwyntio ar gost ac allbynnau tuag at fodelau sy'n creu mwy o werth a chanlyniadau sydd bwysicaf i bobl
  • Dilysu eich strategaeth hirdymor, ystyried y sgiliau a'r galluoedd sydd eu hangen yn eich gweithlu; a chefnogi datblygiad system/sefydliad/model busnes gofal iechyd a gofal cymdeithasol cynaliadwy

Darllenwch lyfryn digidol yr Academi Iechyd a Gofal sy'n Seiliedig ar Werth am ddealltwriaeth bellach ar Academi IGSW.

FMLM & CPD Accreditation Logo

Cofrestrwch isod i dderbyn y ffurflen gais ar gyfer Egwyddorion Iechyd a Gofal Seiliedig ar Werth

Diogelu data

Drwy gyflwyno eich ymholiad, rydych yn cydsynio i Brifysgol Abertawe ddal eich data. Caiff eich data ei ddefnyddio at ddibenion ymdrin â'ch ymholiad ac anfon gwybodaeth berthnasol atoch am Brifysgol Abertawe. Ni fydd Prifysgol Abertawe'n trosglwyddo'ch manylion i unrhyw drydydd parti. Os ydych chi'n dymuno tynnu eich hun oddi ar gronfa ddata Prifysgol Abertawe, cysylltwch â'r Swyddfa Dderbyn, Prifysgol Abertawe, Abertawe, SA2 8PP, vbhcacademy@swansea.ac.uk

Egwyddorion Iechyd a Gofal sy’n Seiliedig ar Werth

Cyflwynir y cwrs yn y fformatau canlynol, a gellir archwilio digwyddiadau pwrpasol ar gyfer sefydliadau mawr: