Wrth i fforddiadwyedd herio systemau iechyd a gofal cymdeithasol ledled y byd, mae'r ffocws ar sicrhau mwy o werth (y canlyniadau sydd bwysicaf i bobl, am y gost isaf bosibl) yn dod yn fwyfwy hanfodol.

Mae'r Academi Iechyd a Gofal sy’n Seiliedig ar Werth, wedi'i hanelu at Arweinwyr ac Uwch Reolwyr sydd â diddordeb mewn datblygu gwybodaeth a mewnwelediad ar sut i ddatblygu ac ymgysylltu â systemau a gwasanaethau Iechyd a Gofal sy’n Seiliedig ar Werth (IGSW).

Fe'i cynlluniwyd i gefnogi mabwysiadu IGSW yn llwyddiannus ar draws sefydliadau o Systemau Iechyd a Gofal Cymdeithasol i'r Trydydd Sector a'r Diwydiannau Gwyddor Bywyd.

Academiau Dysgu Dwys Cymru

Yr Academi yw'r gyntaf o'i fath, yn fyd-eang, gyda'i dull aml-elfen a chadarn o gefnogi twf sefydliadol IGSW. Mae ei dri gwasanaeth craidd yn cynnwys:

  • Rhaglenni Addysgol nodedig
  • Ymchwil arloesol
  • Gwasanaeth Ymgynghori arbenigol

Mae ei gynnig addysg yn cynnwys DBA, MSc/PGDip Rheoli Iechyd a Gofal Uwch (Seiliedig ar Werth), yn ogystal â rhaglenni Addysg Weithredol IGSW byr a dosbarthiadau meistr. Bydd ei gynnig ymchwil yn galluogi sefydliadau i weithio gydag academyddion o'r radd flaenaf sydd â phrofiad uniongyrchol ym maes IGSW, tra bod gwasanaethau ymgynghori pwrpasol ar gael i sicrhau bod sefydliadau'n cael y cymorth angenrheidiol i weithredu IGSW.

Cyrsiau

MSc Rheoli Iechyd a Gofal Uwch (Seiliedig ar Werth):
Dyfernir 25 credyd DPP gan y Gyfadran Arweinyddiaeth a Rheolaeth Feddygol a'r Dyfernir 50 credyd DPP Swyddfa Safonau DPP

Egwyddorion Iechyd a Gofal sy’n Seiliedig ar Werth - Cwrs byr dwys Addysg Weithredol:
Dyfernir 14 Credyd DPP gan y Gyfadran Arweinyddiaeth a Rheolaeth Feddygol a'r Swyddfa Safonau DPP

FMLM Accreditation
CPD Accreditation

Addysg

Ymchwil

Ymgynghori

Cylchlythyr

Part Funded by WG logo
European Alliance for Value in Health