Mae'r Academi Iechyd a Gofal sy'n Seiliedig ar Werth a'r Academi Dysgu Dwys Cymru Gyfan ar gyfer Arloesi mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, yn rhan o Raglen Academi Dysgu Dwys (ADD) Llywodraeth Cymru.

Wedi'i amlinellu yn Cymru Iachach, y cynllun hirdymor ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru, mae'r rhaglen wedi'i chynllunio i wella arweinyddiaeth a datblygiad o fewn y gweithlu Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Fel rhan o'r rhaglen hon, gallwn gynnig nifer o ysgoloriaeth i ddysgwyr proffesiynol o bob rhan o Gymru, sy’n gweithio o fewn y canlynol:

  • GIG Cymru 
  • Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol
  • Sefydliadau Gofal Cymdeithasol yng Nghymru
  • Sefydliadau'r Trydydd Sector yng Nghymru
Academiau Dysgu Dwys Cymru

Cyrsiau Sy'n Cynnig Ysgoloriaethau Add Yn Yr Ysgol Reolaeth:

Mae yna angen cynyddol am systemau iechyd a gofal cymdeithasol i gaffael galluoedd sy'n Seiliedig ar Werth, i arwain trawsnewid sefydliadol a thrawsnewid ar draws y system. Mae yna angen hefyd i arweinwyr ysgogi arloesedd o fewn systemau, prosesau a thechnolegau iechyd a gofal cymdeithasol, a dyna pam yr ydym wedi cynllunio rhaglenni i gefnogi uwch arweinwyr a darpar arweinwyr i fabwysiadu'r dulliau hyn yn eu sefydliadau. 

WG part-funded logo

Dysgwch Fwy Am Ein Rhaglenni A Ariennir Gan Yr Add