Trosolwg

Rhaglen 10 mis wedi'i hariannu'n llawn sy'n cynnwys gweithdai,ymweliadau â safleoedd, dysgu drwy weithredu, dysgu gan gymheiriaid a chefnogaeth arbenigol i alluogi rheolwyr i gyd-greu cynnyrch newydd neu atebion gwasanaeth a’u gweithredu gyda chymorth. Bydd y rhaglen yn:

  • Creu rhwydweithiau arloesi cydweithredol rhyng-sefydliadol i gefnogi gweithio rhanbarthol a galluogi sefydliadau gwasanaeth cyhoeddus i ddatrys problemau presennol
  • Gwella gwybodaeth sefydliadau gwasanaeth cyhoeddus am yr economi gylchol i gyflawni Amcanion Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol Llywodraeth Cymru a mynd i’r afael â her fwyaf ein cenhedlaeth
  • Gwella gwybodaeth a sgiliau arloesi i ysgogi cynhyrchiant a datblygu gallu sefydliadol


Gweler tudalen we CEIC am ragor o wybodaeth am y rhaglen.

CEIC

I ddechrau'r broses ymgeisio, cwblhewch yr arolwg ar-lein.

Trosolwg o'r rhaglen

Pwy ddylai ddod?

Rheolwyr ac arweinwyr y gwasanaethau cyhoeddus a sefydliadau’r trydydd sector:

  • Prifddinas-Ranbarth Caerdydd
  • Dinas-ranbarth Bae Abertawe

Ymagwedd

Mae'r rhaglen yn seiliedig ar:

  • Weithdy sylfaenol a ‘digwyddiad dysgu drwy brofiad’ i ddatblygu Cymuned Ymarfer arloesol
  • Gweithdai misol ar egwyddorion yr economi gylchol, meddwl dylunio a damcaniaethau, dulliau a thechnegau datblygu atebion gwasanaethau newydd; gan gymryd yr awenau o ran cyd-greu dulliau a gweithdrefnau newydd sy’n mynd i'r afael â heriau'r Economi Gylchol a nodwyd drwy’r defnydd o ddatblygu cynnyrch newydd / dulliau atebion gwasanaeth
  • Creu a hwyluso setiau dysgu gweithredol i gefnogi’r broses o roi dulliau a gweithdrefnau newydd ar waith
  • ‘Ymyriadau ar y safle’ i brofi a dysgu mewn sefydliadau gwasanaeth cyhoeddus a ddewiswyd i dreialu dulliau a gweithdrefnau newydd
  • Ymweliadau Arfer Gorau i sefydliadau arloesol (y sector cyhoeddus a phreifat) i ddatblygu hyder, gwybodaeth a sgiliau o ran ‘yr hyn sy’n gweithio’
  • Ymweliadau ‘cyfnewid gweithle’ i gynnig dysgu a chymorth 1 i 1
  • Creu ‘hyrwyddwyr arloesi’ ym mhob sefydliad i raeadru gwybodaeth a sgiliau a chynnal gweithgareddau y tu hwnt i’r rhaglen yn y Cymunedau Ymarfer
person sy'n ysgrifennu
pobl yn gweithio gyda'i gilydd
pobl yn gweithio gyda'i gilydd
pobl yn gweithio gyda'i gilydd

Beth mae pobl yn ei ddweud?

Bydd y negeseuon cymeradwyaeth a ddarperir yn y fideos a fydd yn ymddangos ar y dudalen we hon yn deillio o gyfranogwyr rhaglen Datblygu Perfformiad Arloesi Cwmnïau a Chlystyrau Cadwyn Cyflenwi, sef rhagflaenydd y prosiect hwn -

Yn cael ei redeg mewn cydweithrediad â Phrifysgol Met Caerdydd a'i ariannu gan ESF

su logo
ESF
Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Uchafbwyntiau’r Newyddion

CEIC logo

Cefnogi Sefydliadau De Cymru i Gyflenwi Buddion Economaidd Cylchol 

Bydd y prosiect cydweithredol Cymunedau Dyfeisiadau Economi Gylchol (CEIC) rhwng Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Fetropolitan Caerdydd sy’n werth £3.7 miliwn, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Gymdeithasol Ewrop, yn galluogi sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus yn ninas-ranbarth Bae Abertawe a phrifddinas-ranbarth Caerdydd i ddarparu buddion economaidd cylchol ar gyfer eu sefydliadau a’u rhanbarthau.
Trwy gymorth arbenigwyr yn y ddwy brifysgol, bydd rhaglen CEIC yn helpu sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus a thrydydd sector i greu cynhyrchion neu wasanaethau newydd ac yn gweithredu atebion er mwyn cynyddu eu gwerthoedd i’r eithaf a chadw gwastraff i leiafswm gan wella meddwl yn gylchol yn economaidd mewn gwasanaethau cyhoeddus. 

 Am ragor o wybodaeth, darllenwch y datganiad i’r wasg.

Rhagor o Fanylion

Cyfarwyddwr y Rhaglen: Gary Walpole

I ddechrau'r broses ymgeisio, cwblhewch yr arolwg ar-lein.