Gorlifiant pathogenau ac ymlediad feirysau mewn adeg o newid byd-eang

Rydym ni’n archwilio sut mae pathogenau yn lledaenu rhwng pobl ac anifeiliaid

Rydym ni’n archwilio sut mae pathogenau yn lledaenu rhwng pobl ac anifeiliaid

Yr Her

Mae ymddangosiad ac ymlediad pandemig Covid-19, sy’n glefyd heintus a achosir gan y coronafeirws hynod heintus SARS-CoV-2, yn enghraifft o bathogen sydd wedi gorlifo o organeb letyol ymhlith anifeiliaid i bobl, gan ddatgelu ei effaith ddinistriol. Yn ystod datblygiad pandemig, mae deall a lliniaru ymlediad pathogen (sef bacteria neu feirws sy’n achosi clefyd) yn flaenoriaeth uchel.

Gall modelu a rhagweld epidemiolegol helpu i ni ddeall ymlediad pathogenau mewn rhannau gwahanol o boblogaethau dynol ac ardaloedd daearyddol yn well. Gan fod ymddygiad dynol (ac anifeiliaid) a’u symudiadau yn paratoi’r ffordd ar gyfer ymlediad pathogenau drwy rwydweithiau cyswllt cymhleth, mae deall y rhyngweithio cymhleth rhwng sut mae’r organeb letyol a phathogen yn rhyngweithio mewn amgylcheddau gwahanol yn her barhaus.

Y Dull

Mae Dr Konstans Wells yn arwain ymchwil Bioamrywiaeth ac Ecoleg Iechyd, ac mae’n ecolegydd ac yn fodelydd sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau newid amgylcheddol ar fioamrywiaeth, bywyd gwyllt, rhywogaethau ymledol a rhyngweithio rhwng organebau lletyol ac arfilod.

Ar gyfer astudiaeth ddiweddar ar ymlediad byd-eang rhywogaethau feirysau ymhlith pobl a mamaliaid, crëwyd modelau cyfrifiadurol, gan ddefnyddio algorithmau cymhleth, i archwilio rhywogaethau’r mamaliaid hynny sy’n gysylltiadau canolog o ran sut mae pobl a mamaliaid yn gysylltiedig, gyda llawer o’r rhywogaethau feirysau rydym yn gwybod bod pobl ac anifeiliaid yn eu rhannu.

Gan ddatblethu ‘rhwydwaith’ mor gymhleth o ryngweithio, awgrymodd yr ymchwil mai ystlumod ac anifeiliaid cigfwytaol hefyd oedd fwyaf dylanwadol wrth ymledu feirysau RNA, sy’n deillio o anifeiliaid, i bobl a rhywogaethau mamalaidd, gydag effeithiau iechyd dinistriol megis Ebola a’r coronafeirysau SARS.

Mae’n bwysig archwilio ymhellach y berthynas rhwng anifeiliaid a phobl, yn ogystal â’u rhyngweithiadau mewn adeg o newid byd-eang, er mwyn deall sut gall pathogenau orlifo o un rhywogaeth i un arall yn well er mwyn lleihau effeithiau annymunol clefydau heintus ar bobl ac anifeiliaid

Yr Effaith

  • Gyda’r arfau, yr wybodaeth a chanlyniadau ymchwil flaenorol wrth law, mae Dr Wells yn gweithio ar flaen y gad i ddatblygu ein dealltwriaeth wyddonol o sut mae pathogenau’n goresgyn rhwystrau i orlifo i rywogaethau lletyol newydd a datgelu eu heffeithiau andwyol ar glefydau heintus sy’n dod i’r amlwg.
  • Gallai ymchwil bellach fodelu clefydau newydd a rhai sy’n ailymddangos mewn bywyd gwyllt a phobl.
  • Ar hyn o bryd, mae Dr Wells yn cynorthwyo wrth fodelu ymlediad Covid-19 fel rhan o ymdrechion cenedlaethol a phrosiectau ymchwil parhaus.

Firysau a rennir

Llun gan Dr Maya Wardeh, Prifysgol Lerpwl

computer generated image of network of shared viruses
Text ReadsNodau datblygu cynaliadwy y cenhedloedd unedig
UNSG - Health
Life on Land UNSDG
Themâu ymchwil Prifysgol Abertawe