Yr Her
Wrth i’r byd wynebu argyfwng hinsawdd, mae gwella dulliau storio carbon hirdymor ar frys yn bwysicach nag erioed.
Gallai morwellt, sy’n tyfu mewn dolydd tanddwr toreithiog a mawr, fod yn rhan o’r ateb o ganlyniad i’w allu i ddal carbon o’r atmosffer (hyd at 35 gwaith yn gyflymach na choedwigoedd glaw).
Fodd bynnag, ar ôl canrifoedd o ddiwydiannu a gorddefnydd, mae llawer o ardaloedd bellach yn ddiffrwyth. Yn hytrach na gweithredu fel sinc i’r carbon, ar ôl iddynt ddirywio daw’r amgylcheddau hyn yn ffynhonnell garbon.
Y Dull
Mae Dr Richard Unsworth ac ymchwilydd yn y Coleg Gwyddoniaeth wrthi’n datblygu dulliau sy’n adfer dolydd morwellt ar raddfa fawr.
Gan weithio gydag amrywiaeth o fudiadau gan gynnwys Prosiect Morwellt Seagrass, Sky Ocean Rescue a WWF, a chan gydweithio â chymunedau lleol a Llywodraeth y DU, mae’r tîm wrthi’n cynnal prosiect adfer morwellt ar raddfa fawr yn y DU ac maent wedi dechrau drwy blannu 2 hectar o ddolydd.
Yn ogystal â’r 2 hectar o forwellt, mae llawer mwy i ddod. Trwy adeiladu ar gynnydd a wnaed gan wyddonwyr yn yr Unol Daleithiau, mae Richard a’i dîm, ynghyd â’u partneriaid, wrthi’n gweithio ar uwchraddio dulliau adfer morwellt - gan gynnwys gwella awtomatiaeth a chan ddefnyddio dilyniannu i ddadansoddi a deall cysylltiadau microbaidd morwellt.