Coronafeirws: y diweddaraf

Hau 750,000 o hadau yng Nghymru yn y cynllun mwyaf i adfer morwellt yn y DU 

Morwellt

Mae morwellt yn dal carbon yn gyflymach na choedwigoedd glaw ac yn cynorthwyo i adfer bywyd morol – bydd prosiect peilot newydd yn adfer cynefin morol pwysig i helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur. 

Mae Sky Ocean Rescue, WWF a Phrifysgol Abertawe wedi cyrraedd carreg filltir bwysig yn y prosiect mwyaf erioed i adfer morwellt yn y Deyrnas Unedig – hau mwy na 750,000 o hadau morwellt ym Mae Dale yn Sir Benfro. 

Nod Seagrass Ocean Rescue yw adfer 20,000 m2 o’r planhigyn morol hwn, ar ôl i hyd at 92 y cant o forwellt y Deyrnas Unedig ddiflannu yn y ganrif ddiwethaf. Mae’r dirywiad enfawr wedi cael ei achosi gan lygredd, datblygiadau ar yr arfordir a difrod gan sgriwiau gyrru a chadwyni angori cychod.

Mae morwellt yn blanhigyn morol blodeuol sy’n dal carbon o’r amgylchedd hyd at 35 gwaith yn gyflymach na choedwigoedd glaw trofannol, gan olygu ei fod yn arf allweddol yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd. Yn aml mae’n tyfu mewn dolydd tanddwr mawr, sy’n amsugno carbon ac yn gollwng ocsigen.  Yn fyd-eang, amcangyfrifir bod morwellt yn gyfrifol am 10% o’r carbon a ddelir gan y moroedd yn flynyddol, er mai dim ond 0.2% o wely’r môr mae’n ei gorchuddio.

Pan fydd wedi aeddfedu, gallai’r ddôl forwellt gynnal 160,000 o bysgod a 200 miliwn o infertebratau. Mae rhwng 30 a 40 gwaith yn fwy o fywyd morol mewn morwellt na mewn darn o wely’r môr sydd heb lystyfiant. Pan gaiff ecosystemau eu gwarchod a’u hadfer, gallant sicrhau bioamrywiaeth, parhau i gynnal bywyd dynol a lleihau’r risgiau hinsoddol hefyd. Gall morwellt fod yn arwr yn y frwydr yn erbyn yr argyfwng hinsawdd a natur. Nid yn unig mae’n amsugno carbon yn uniongyrchol, ond hefyd mae’n creu ecosystem danddwr werthfawr o fywyd morol. Yn ei thro, bydd yr ecosystem hon yn darparu gwasanaethau gwerthfawr, o ddarparu bwyd i helpu i reoleiddio’r hinsawdd.  

Casglwyd yr hadau’r haf diwethaf, o’r dolydd sy’n bodoli eisoes o amgylch Ynysoedd Prydain, a bydd yr hau yn parhau’n nes ymlaen eleni, gyda mwy na miliwn o hadau’n cael eu hau yn 2020.

Dywedodd Alec Taylor, Pennaeth Polisi Morol WWF:  “Daw morwellt â buddion anhygoel i bobl, yr hinsawdd a natur, ond mae wedi diflannu bron yn gyfan gwbl o ddyfroedd y Deyrnas Unedig. Os gallwn ddangos ei bod hi’n bosibl ei adfer, byddwn yn rhoi glasbrint adfer i’r Llywodraeth na allan nhw mo’i anwybyddu.   

“Gall y môr fod yn arwr yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd, ond ni all chwarae’r rhan hon heb weithredu cydgysylltiedig ar fyrder. Gan ddechrau gyda’r gwaith i adfer morwellt, rhaid mai 2020 yw’r flwyddyn mae’r Llywodraeth yn llunio rhaglen adfer forol sy’n arwain y byd, er mwyn dod â bywyd yn ôl i’n moroedd a helpu’r wlad i gyflawni ei hymrwymiadau sero net a’i hymrwymiadau o ran natur.”

Dechreuodd y broses o adfer morwellt yr haf diwethaf, gyda thîm o snorcelwyr a deifwyr gwirfoddol yn casglu’r hadau o ddolydd sy'n bodoli eisoes o amgylch y wlad. Wedyn cafodd yr hadau eu meithrin ym Mhrifysgol Abertawe. Bu oddeutu 2,000 o wirfoddolwyr, rhwng 3 a 90 oed, gan gynnwys llawer o blant ysgol sy’n byw yng ngorllewin Cymru, yn helpu drwy baratoi bagiau hesian bach yn llawn tywod. Caiff pob bag ei glymu i wely’r môr â rhaff, gan adael bwlch o 1 metr rhwng pob un. Cyn ei glymu, ychwanegwyd sgŵp o hadau i bob bag. Cafodd cyfanswm o 15km o raff â bagiau hadau ei ollwng yn ofalus ym Mae Dale gan dîm ar gwch bach. Ymhen amser, bydd y deunyddiau naturiol a ddefnyddiwyd yn ystod y broses hau yn ymddatod yn ddiogel, gan adael i’r planhigion morwellt bach fwrw gwreiddiau a thyfu.

Meddai Dr Richard Unsworth, biolegydd arweiniol y prosiect ym Mhrifysgol Abertawe a chyfarwyddwr elusen gadwraethol Project Seagrass:  “Wrth inni wynebu argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth, da yw gweld brwdfrydedd a gwaith caled cymaint o bobl o bob oedran a chefndir yn cefnogi’n prosiect ni i helpu i frwydro yn erbyn yr argyfyngau byd-eang hyn. Er mwyn gwireddu’r buddion ar raddfa fwy a ddaw o adfer morwellt i helpu i liniaru newid hinsawdd a chefnogi ein pysgodfeydd sydd o dan fygythiad, mae angen i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ymrwymo i raglen o waith adfer morol fel rhan o’i hymrwymiad sero net.”

Buddion eraill morwellt yw ei fod yn gynefin hollbwysig i lawer o’r pysgod a fwytawn, fel y penfras, y lleden a’r morlas. Mae hefyd yn helpu i warchod ein harfordiroedd rhag erydu, am ei fod yn amsugno ynni’r tonnau ac yn glanhau’r moroedd trwy amsugno maetholion llygru a gynhyrchir gan bobl ar y tir. Mae morwellt yn dal nitrogen 20 gwaith yn gyflymach na gwaddod moel. 

 Dewiswyd y safle ym Mae Dale, Sir Benfro oherwydd bod yr ardal wedi colli morwellt yn y gorffennol, ond mae ganddi’r nodweddion cywir o ran dyfnder y dŵr a lefelau golau digonol i’r morwellt oroesi yno. Mae’r prosiect wedi cynnwys gweithio’n helaeth â rhanddeiliaid lleol a’r cymunedau – a helpodd i ddewis union leoliad yr hau – er mwyn sicrhau ei fod o fudd cadarnhaol i bawb. Nod y prosiect yw sefydlu Grŵp Morwellt Cymunedol i gynghori ar reoli’r morwellt a adferwyd yn y dyfodol.

 Mae WWF a Sky Ocean Rescue yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ddefnyddio 2020 fel y flwyddyn i ddatblygu rhaglen radical, sy’n arwain y byd, i adfer moroedd; rhaglen sydd ag ymagwedd holistig at y problemau amrywiol mae ein moroedd yn eu hwynebu, wedi’i chefnogi gan ymrwymiadau cyfreithiol a buddsoddiad.  

Rhannu'r stori